Testunau Gwyddeleg
Y Celtiaid
Hanes
Pobl
Y Merched
Mytholeg
Hanes
Y Mabinogi
Prynu Llyfr
Ystyr y gair ‘cyfarwydd’ ydy ‘y sawl sy'n gwybod’, ond dros y cenedlaethau daeth i olygu adroddwr straeon. Does dim dwywaith i'r llenyddiaeth Gymraeg cynnar, yn farddoniaeth a rhyddiaith, gael ei gyflwyno'n llafar o un genhedlaeth i'r llall. Nid tan yn ddiweddarach, efo dyfodiad Cristnogaeth i Brydain, y dechreuodd y mynachod gofnodi'r llên werin hon mewn llawysgrifen gain.
Taliesin
Taliesin oedd un o'r mwyaf o'r Cynfeirdd, na wyddom lawer ynglŷn â phryd y cafodd ei eni, ond y credir i'w waith gael ei gyfansoddi tua'r 6ed ganrif. Mae llawysgrifau o'i gerddi wedi eu cofnodi yn Llyfr Taliesin. Dywedir iddo fod yn ddyn golygus, ac mor alluog fel bardd a llefarydd nes i sawl chwedl godi o amgylch ei enedigaeth a'i fywyd.
Yn ôl un chwedl, ei enw gwreiddiol oedd Gwion, oedd yn was i'r wrach Ceridwen, merch hynod ddeallus yng nghelfyddyd swyngyfaredd, hud a darogan y dyfodol. Un tro, roedd Ceridwen yn paratoi tintur arbennig er mwyn rhoi grymoedd goruwchnaturiol i'w mab truenus o hyll. Roedd yn rysáit cyfrwys ond cymhleth, a'r gred oedd y bysa yfed y tri diferyn cyntaf ohono yn rhoi i'r yfwr alluoedd dysg a phroffwydoliaeth. A Cheridwen yn cysgu, bu Gwion yn gofalu am y pair, a phan ffrydiodd y tri diferyn cyntaf ohono fe'i llyncodd. Daeth Gwion yn ddewin doeth a grymus ei hun, ond bu'n rhaid iddo ddianc gan wybod i sicrwydd y bysa Ceridwen am ddial arno. Wrth iddi ei erlid, trodd ei hun yn ysgyfarnog, ond trodd Ceridwen ei hun yn filgi. Pan drodd yntau'n aderyn chwim, trodd hithau yn hebog. Cornelwyd Gwion mewn ysgubor, lle trodd ei hun yn rawn o ŷd; trodd y wrach ei hun yn iâr, a'i lyncu yn y fan a'r lle.
Ar hyn, canfu Ceridwen ei bod yn feichiog, ac addawodd i ladd y plentyn yr eiliad y cai ei eni. Serch hynny, pan ddaeth yr adeg ni allai wneud, a gosododd y baban mewn basged yn yr afon. Daethpwyd o hyd iddo gan fonheddwr a'i alw'n Taliesin. Yn y byd go iawn, bardd llys oedd Taliesin, yn canu clodydd ei noddwr er mwyn ei gynhaliaeth.
Aneirin
Un arall o'r Cynfeirdd oedd Aneirin, oedd yn ysgrifennu tua'r un cyfnod â Thaliesin. Un o'i weithiau mwyaf rhyfeddol ydy ‘Y Gododdin’, lle mae'n disgrifio brwydr waedlyd enwog Catraeth yn 598OC. Mae Llyfr Aneirin, lle ceir llawysgrif o'r gerdd, yn dyddio o thua 1265OC.
Rhyw fath o gasgliad ydy'r Mabinogi mewn gwirionedd, yn cynnwys y rhan helaethaf o'r testunau y crybwyllwyd yn barod, ond gan bwyso'n helaeth ar y Llyfr Coch a'r Llyfr Gwyn. Cafont eu casglu at ei gilydd, a'u cyfieithu i Saesneg, gan y Fonesig Charlotte Guest, Saesnes a briododd Gymro ac a swynwyd gan y Gymraeg a'r diwylliant Cymreig. Roedd hi'n ieithydd o fri, ac wedi dysgu Groeg, Hebraeg a Persieg fel plentyn, ond teimla nifer bod ei chyfieithiad o'r Mabinogi yn un bras iawn. Serch hynny, bu'r cyfieithiad yn llwyddiant mawr, gan roi llwyfan fyd-eang i lenyddiaeth Gymraeg cynnar. Ers hynny, bu siaradwyr Cymraeg brodorol yn gwella a chaboli ei chyfieithiad nes eu bod bellach yn weithiau celfyddydol o bwys, sy'n galluogi darllenwyr Saesneg i'w mwynhau mewn dyfnder a chyda mwy o empathi tuag at y testunau gwreiddiol.
Mae'r fersiwn hon wedi ei rhannu yn grwpiau; Y Pedair Cainc, y Chwedlau Brodorol, a'r Tair Rhamant.
Pedair Cainc y Mabinogi
Yn y straeon hyn cawn gyfarfod â nifer o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus o lên gwerin Cymraeg; Pwyll, Rhiannon, Bendigeidfran, Branwen, Math, Arianrhod, Gwydion, Lleu a Blodeuwedd. Pryderi ydy'r unig gymeriad cyson, yn cael ei eni yn y gyntaf ac yn marw yn yr olaf. Mae'r cymeriadau yn meddu ar rymoedd goruwchnaturiol, ond eto yn dioddef o wendidau dynol sydd yn anorfod yn achosi trychineb ar ôl trychineb. Cawn ddarlun teimladwy o'u cydberthynas mewn straeon sy'n gafael yn y dychymyg.
Straeon a Chwedloniaeth Frodorol
Culhwch ac Olwen
Breuddwyd Rhonabwy
Breuddwyd Macsen Wledig
Lludd a Llefelys
Er gwaethaf eu teitlau, mae'r ddwy gyntaf yma yn cyfeirio i raddau helaeth at orchestion Arthur a'i farchogion yn ei lys yng Nghelli Wig, Cernyw. Mewn ffaith, 'Culhwch ac Olwen' ydy'r stori Arthuraidd hynaf yn Gymraeg sydd ar gof a chadw. Mae'r cymeriadau ystrydebol yma i gyd, yr ymladdwyr dewraf, y merched prydferthaf, ac eto mae wedi ei ysgrifennu mewn arddull hynod hardd a deniadol. Stori ryfedd a swrrealaidd iawn ydy honno am freuddwyd Rhonabwy, o bosib yn dychanu straeon eraill o'i math.
Cymysgedd anesmwyth a rhyfedd o chwedloniaeth a hanes ydy'r ddwy stori yma, sy'n ceisio ail-ddiffinio sofraniaeth Brydeinig o safbwynt Cymreig.
Rhamantau
Geraint fab Erbin
Iarlles y Ffynnon
Peredur fab Efrog
Cyfeirir at y grŵp yma fel y ‘Rhamantau’ oherwydd iddynt oll ddangos yr un elfennau o ymddygiad mawrfrydig. Er wedi eu seilio ar Arthur a'i frenhines Gwenhwyfar, mae'r straeon yn dilyn ymdrechion yr amrywiol arwyr i brofi eu dewrder a'u ffyddlondeb, tra'n llwyddo i gadw tôn hollol Gymreig i'r adrodd.
Llyfr Un
Hiraeth
a mark - marc
Llyfr Dau
Hiraeth
a burden - baich
Llyfr Tri
Hiraeth
a loss - colled
Mae llawer mwy o destunau Gwyddeleg mewn bodolaeth nag o rai Cymraeg, yn cyplysu chwedloniaeth a llên gwerin Iwerddon. Y llawysgrifau lle y maent i'w canfod ydy; Lebor na hUidre, ysgrifennwyd yn y ddeuddegfed ganrif ac sy'n cael ei gadw yn yr Academi Wyddelig Frenhinol; Llyfr Leinster, hefyd o'r ddeuddegfed ganrif ac yn cael ei gadw yng Ngholeg y Drindod, Dulyn; a llawysgrif Rawlinson caiff ei gadw yn llyfrgell y Bodleian yn Rhydychen. Cafodd y testunau hyn eu trawsgrifio gan fynachod Cristnogol cynnar o straeon llawer cynharach - nifer ohonynt yn dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng y chweched a'r wythfed ganrif. Mae ffynonellau diweddarach yn cynnwys Llyfr Melyn Lecan, Llyfr Mawr Lecan, Leabhar Uí Dubhagáin, a Llyfr Ballymote, y cyfan wedi eu trawsgrifio yn y bymthegfed ganrif. Mae'r deunydd o'r ffynonellau hyn unwaith eto wedi eu cyfuno a'u grwpio.
Cylch Uladh
Tardda'r straeon yn y cylch yma o tua adeg teyrnasiad Conchobar mhac Nessa yn rhan ogleddol Iwerddon, yr un cyfnod pan y troediodd Crist y ddaear yn ôl rhai. Maen nhw'n llawn o antur, rhyw, trais, cariad a chasineb, ac mae'r cymeriadau yn rhai crwn a chyflawn, pob un yn ymaflyd efo trafferthion ac amheuon personol.
Un o'r straeon bywiocaf a mwyaf dylanwadol yn y cylch ydy Táin Bó Cúailgne, neu'r "Cyrch ar Wartheg Cooley", sy'n olrhain hanes rhyfel a ddechreuwyd gan y Frenhines Medb o Gonnacht, y cyfan dros ladrad tarw o fri. Ei phrif wrthwynebydd ydy Cúchulainn, ‘Ci Uladh’, nai i'r brenin ac arwr i'w bobl. Wedi ei fendithio efo cryfder anhygoel a charisma syfrdanol, daeth yn eicon mewn chwedloniaeth Wyddelig, ac yn dalismon i'r ysbryd gwrthryfelgar.
Y Cylch Chwedlonol
Mae'r casgliad yma o straeon yn ymwneud â chwedl Wyddelig y greadigaeth, o'r dduwies Danu ymlaen, ac anturiaethau ei hepil goruwchnaturiol - y Tuatha Dé Danann.
Y Cylch Ffeniaidd
Mae'r gyfres hon o straeon yn trafod Fionn mhac Cumhaill a'i griw anystywallt o ymladdwyr a hurfilwyr, y Fianna, gan ein hudo i fyd brenhiniaethol hynafol yn llawn nwyd, straeon serch trionglog, a thwyll.
Y Cylch Hanesyddol
Ar un pryd yn cael eu hadnabod fel ‘Cylch y Brenhinoedd’, mae'r straeon hyn yn delio ag achau cymhleth Uchel Frenhinoedd Iwerddon. Yn wreiddiol, swydd beirdd y llys oedd datgan achau cywir y brenin er mwyn atgyfnerthu ei hawl i deyrnasu. Ymhen amser, daeth y rhain hefyd i gael eu cofnodi mewn ysgrifen.
Llyfr Du Caerfyrddin
Credir mai'r gyfrol yma o lawysgrifau sy'n dyddio a thua 1250OC, ac sy'n cael ei chadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ydy'r enghraifft gynharaf o destun Cymraeg sy'n dal mewn bodolaeth. Ei chynnwys yn bennaf ydy cerddi a chaneuon, ond mae ynddi hefyd gyfeiriadau at y Brenin Arthur, Myrddin ac arwyr Cymreig eraill, gan ei chysylltu efo testunau eraill o'r cyfnod.
Llyfr Gwyn Rhydderch
Ysgrifennwyd y llyfr hwn â llaw tua 1350, ac mae ynddo elfennau hollbwysig o'r Mabinogi. Caiff ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Llyfr Coch Hergest
Wedi ei ysgrifennu ar femrwn tua'r cyfnod 1382 -1410, mae'r llyfr hwn hefyd yn cynnwys elfennau mawrion a llawn cyn bwysiced o'r Mabinogi. Caiff ei gadw yn llyfrgell Bodleian ym Mhrifysgol Rhydychen.
Trioedd Ynys Prydein
Darnau yn unig sy'n bodoli o'r llawysgrifau hyn, sy'n cyfeirio at chwedloniaeth a llên gwerin y Celtiaid. Cânt eu galw yn Drioedd oherwydd y defnydd cyson ynddynt o'r rhif tri fel cyfeirnod; y tri tywysog hael o Brydain, tair gorsedd lwythol Prydain, ac yn y blaen.