Marged uch Ifan
Dynes ryfeddol tu hwnt oedd Marged uch Ifan, neu Margaret Evans fel y cafodd ei bedyddio, a anwyd ym 1695 yn Llanberis wrth droed Y Wyddfa. Mewn cymdeithas oedd yn cael ei reoli'n llwyr gan ddynion, ystyriwyd hi i fod ymysg y goreuon ar hela a physgota. Roedd hi hefyd yn bencampwraig ymaflyd codwm, yn adeiladwr cychod, gof, gwneuthurwr telynau, ac yn gallu canu'r ffidl yn benigamp.
Prynu Llyfr
Y Celtiaid
Hanes
Pobl
Y Testunau
Testunau Cymreig
Testunau Gwyddelig
Mewn Hanes
Tra fod dynion ar y cyfan yn tra-arglwyddiaethu yn y gymdeithas Geltaidd, mae'n amlwg fod i ferched rôl llawer mwy cyfartal na’r hyn o eiddo’r merched Rhufeining, Groegaidd neu Sacsonaidd yn eu cymdeithasau hwy.
Merched Cúchulainn
Dyn o gig a gwaed oedd Cúchulainn, ac mewn llawer ffordd yfo oedd y prif ddyn yng Nghylch Uladh o fytholeg Wyddelig. Proffwydwyd y bysa ei fywyd yn fyr ond yn wych. Roedd yn cael ei gydnabod am ei gynddaredd mewn brwydr, oedd yn rhoi iddo nerth goruwchnaturiol ond a’i gwnaeth yn beiriant lladd dideimlad. Rhwystrai hyn iddo wahaniaethu rhwng gelyn a chyfaill.
Yn olygus a dewr, craff a gwamal, treuliodd Cúchulainn lawer o’i amser yn ymladd, a llawer yn cellwair caru. Roedd yn hoff iawn o ferched ac yn eu caru, a hwythau’n ei garu yntau. O’r ymladdwragedd enwog i’r morynion isaf eu statws, hudodd Cúchulainn nhw i’w wely. Ond, yn eironig ddigon, mae’n ymddangos iddo ddangos ei gariad mwyaf angerddol tuag at ddyn arall - Ferdiad, y bu’n rhaid iddo ei ladd mewn sgarmes.
Emer
Syrthia Cúchulainn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad efo Emer wrth weld ei bronnau am y tro cyntaf.
'Gwelaf wlad felys. Gallwn orffwys f’erfyn yno.'
Ond mae’n rhaid i’r arwr yn gyntaf drechu chwaer Emer mewn ymladdfa cyn y gall ei phriodi.
Yn anffodus i Emer, gŵr digon anffyddlon fu Cúchulainn, sy’n canfod sawl cariad tra ei bod hi’n cadw cartref iddo yn Dun Dealgan. Yn eu plith roedd Eithne Inguba, a Niamh, gwraig Conall Cearnach. Hefyd Buan a Bláthnat, yn ddwy yn colli eu bywydau o’i herwydd.
Mae Fand yn wraig i Manannán mhac Lir, duw’r môr. Pan syrthia Cúchulainn mewn cariad efo hi, mae cenfigen Emer yn ffrwydro oddi mewn iddi. Penderfyna bod yn rhaid iddi ladd Fand, ac ar ôl ei chanfod mae dadl yn codi rhyngddynt ynglŷn â Cúchulainn. Ond pan ddaw hi’n amlwg bod Fand yn wirioneddol garu Cúchulainn, mae Emer yn cytuno i’w ildio iddi. Ond yr un pryd, trawir Fand gan gymaint ydy cariad Emer tuag at ei gŵr, er gwaethaf ei anffyddlondeb cyson. Penderfyna Fand dychwelyd at ei gŵr hithau, ac mae Manannán yn bwrw swyngyfaredd drostynt sy’n rhwystro Cúchulainn a Fand rhag cyfarfod byth eto. Caiff Cúchulainn a Emer dintur i’w yfed sy’n gwneud yr holl hanes yn angof, a bu diwedd ar y cecru ynglŷn â Fand.
Scáthach (Yr Un Rhithiol)
Mae merched eraill hefyd ym mywyd Cúchulainn, a’r pwysicaf ohonynt ydy Scáthach, ymladdwraig broffesiynol. Roedd Dun Scáthach yn ysgol filwrol, wedi ei lleoli ar Ynys Skye, a chafodd Cúchulainn a nifer o arwyr Gwyddelig eraill eu hanfon yno i gael eu haddysgu yng nghrefft rhyfela.
Roedd Scáthach yn filwraig ddychrynllyd ei hun, a hyfforddai nifer cyfyngedig o ymladdwyr a gai eu hystyried yn deilwng o hynny. Cúchulainn oedd y gwychaf o'r rhai ddaeth o dan ei hadain. Mewn gwerthfawrogiad, rhoddodd Scáthach iddo ei erfyn peryclaf un, gwaywffon oedd yn cael ei adnabod fel 'Gae Bolga’, neu'r 'Rhwygwr Boliau'. Drwyddi hi hefyd y dysgodd Cúchulainn am nifer o ddulliau eithafol o ymladd, fel ei naid frwydr enwog a'r ’torannchles’ neu 'orchest taranau'. Nid ydy'n eglur pa mor hoff oeddynt o'i gilydd, ond yn sicr roedd perthynas rywiol yn bodoli rhyngddynt. Roedd hyn yn cyd-fynd â diwedd ei brentisiaeth, a lled debyg y bu'n rhaid iddo ei threchu mewn sgarmes yn gyntaf.
'Cipiodd Cúchulainn hyd yn oed gyfeillgarwch ei chluniau oddi ar Scáthach.'
Cylch Uladh
Aoife
Bu Cúchulainn mewn perthynas hefyd efo Uathach, merch Scáthach, yn ogystal â Aoife, chwaer Scáthach ac ymladdwraig llawn mor ffyrnig. Adnabyddid Aoife fel pencampwraig ymysg yr ymladdwyr, yn ddynion a merched fel ei gilydd. Bu hi a'i chwaer yn aml yn brwydro yn erbyn ei gilydd ar faes y gad. Yn y pen draw gorfu Aoife i ymladd â Cúchulainn, oedd yn brwydro ar ochr Scáthach. Er cystal ymladdwr oedd Cúchulainn, ni allai ei threchu heb dwyllo. Ar ôl canfod cymaint y meddyliai Aoife o'i cheffylau a'i cherbyd rhyfel, galwodd ati eu bod mewn perygl enbyd, a manteisiodd ar ei gyfle tra roedd ei sylw wedi ei dynnu tuag atynt.
'Edrychodd Aoife o'i chwmpas a neidiodd Cúchulainn arni a'i dal gerfydd ei dwyfron. Lluchiodd hi ar ei gefn fel sach, a'i chludo'n ôl at ei fyddin. Taflodd hi'n drwm i'r llawr a dal cleddyf noeth dros ei phen.'
'Bywyd am fywyd, Cúchulainn!' gwaeddodd Aoife.
'Caniatâ i mi dri dymuniad,' meddai yntau.
'Yr hyn wyt yn gallu ei ofyn mewn un anadl, fe gei,' meddai hi.
'Fy nhri dymuniad,' meddai yntau, 'ydy; tri gwystl i Scáthach, ac addewid na fyddi'n ymosod arni eto; dy gwmni heno yn dy gaer dy hunan; a dy fod yn rhoi imi fab.'
'Cei'r cyfan rwyt yn ei ofyn,' atebodd hi.
A'r noson honno cysgodd Cúchulainn ag Aoife.'
Cylch Uladh
Beichiogodd Aoife â mab, a chyn gadael, rhoddodd Cúchulainn fodrwy aur iddi ar gyfer y bachgen, yr oedd wedi ei enwi yn Connla. Dywedodd y dylai'r bachgen fynd drosodd i Iwerddon pan fyddai'r fodrwy y maint iawn ar gyfer ei fys, gan ychwanegu;
'Nid ydy'r bachgen i ddatgelu ei enw i unrhyw ddyn, ni ddylai symud ymaith i unrhyw ddyn, na gwrthod ymladd ag unrhyw ddyn.'
Daw'r stori i ddiweddglo echryslon pan mae Cúchulainn yn lladd ei unig fab mewn ymladdfa.
Mae nifer fawr o ymladdwragedd eraill yn ymddangos yn fyrhoedlog yn y straeon Gwyddelig. Mae Creidne yn dianc o berthynas losgachol efo'i thad, ar ôl geni iddo dri o feibion. Mae'n dod yn aelod eofn o'r 'Fianna', carfan o hurfilwyr mawr eu bri sydd o dan arweiniad Fionn mhac Cumhaill. Mae gan Fionn ferch o'r enw Credha, ymladdwraig sydd wedi ei hyfforddi i fod ymysg y goreuon mewn sawl ffurf ar sgiliau ymladd. Erni oedd cynorthwy-ydd ffyddlon y Frenhines Medb, a'i gwarchodwraig bersonol oedd yn brwydro ochr yn ochr â hi ac yn gofalu am ei thrysor. Ymladdwragedd eraill llai adnabyddus oedd Mughain Mór o An Mhumhain (a ddaeth yn Frenhines Uladh), ac Estine a Breifne.
Chwedloniaeth Wyddelig
Mewn Chwedloniaeth
Mae’r Mabinogi a’r Cylchoedd Gwyddelig wedi rhoi inni amrywiaeth eang o arwresau a dihirod benywaidd. Maen nhw i gyd yno; breninesau ymladdgar creulon; goroeswyr galluog ac uchelgeisiol; ffyliaid rhamantaidd a phrydferth; dioddefwyr druain o dan felltith; a gwrachod anfad a hyll. Ac yn hytrach na bod yn ddelfrydau neu’n ystrydebau, mae’n ymddangos mai wedi eu disgrifio yn hytrach na’u creu mae’r merched hyn. Mae rhai o’r cymeriadau yn y testunau Gwyddelig a Chymreig bron yn ymgyfnewidiol, ac mae’n rhaid gofyn ai tybed o’r un tarddiad unigol y daeth y straeon hyn.
Chwedloniaeth Gymreig
‘Mae merched y Celtiaid bron mor dal â’r dynion, ac maen nhw llawn cyn ddewred yn ogystal.’ Diodorus Siculus.
‘Ni fysai byddin gyfan o estroniaid yn gallu dal ei dir yn erbyn un Celt pe byddai’n galw ei wraig i’w gynorthwyo. Mae’r wraig yn hyd yn oed yn fwy arswydus. Fel arfer mae hi’n gryf iawn gyda llygaid gleision; yn ei gwylltineb, chwydda’r gwythiennau yn ei gwddf, bydd yn rhincian ei dannedd, ac yn chwifio ei breichiau cryfion, gwyn fel eira, yn wyllt. Mae’n bwrw ergydion ac yn cicio fel petaen nhw’n daflegrau o linyn catapwlt. Mae lleisiau’r merched hyn yn ddychrynllyd a bygythiol, hyd yn oed mewn cyfeillgarwch yn hytrach nac mewn dicter.’ Ammianus Marcellinus
Nid canmol y merched oedd bwriad y sylwebyddion Rhufeinig hyn. Ar y pryd roedd merched y Groegiaid a’r Rhufeiniaid yn ddi-rym o dan y gyfraith, ac yn cael eu darostwng oddi fewn i gymdeithas. Roedd yn atgas gan y dynion hyn feddwl bod merched mewn diwylliannau eraill efo rhyddid a hunan-benderfyniad cymharol.
Mae’r rhan helaethaf o hanes yr ynysoedd hyn yn ymwneud â gweithredoedd dynion, ond llwyddodd nifer sylweddol o ferched y byd Celtaidd i wneud eu marc hefyd. Nid ymladdwyr oeddynt i gyd, ac mae nifer ohonynt yn ffuglennol, ond mae’r merched a gofnodir yma yn ddigon pwysig i gael eu cofio mewn rhyw fodd ochr yn ochr â’r dynion.
Rhiannon
Mae Rhiannon yn ymddangos ar gefn ceffyl gwyn hudol o flaen yr arwr Cymreig, Pwyll, tra’i fod allan yn hela efo’i ddynion. Er i Bwyll orchymyn cyfres o’i ddynion i farchogaeth ati, nid oes modd ei dal, wrth i’w cheffyl gadw ar y blaen iddynt waeth pa mor gyflym y maent yn carlamu. Nid tan i Bwyll ei hun ei hymlid mae hi’n cytuno i gael ei dal.
Dywed Rhiannon wrth Bwyll eu bod wedi eu tynghedu i briodi â’i gilydd, ond y bysa’n rhaid iddynt feddwl am ryw ystryw gan ei bod wedi dyweddïo efo dyn arall. Ar ôl blwyddyn o gynllwynio, ac efo cymorth sach hudol, mae’r ddau yn twyllo ei dyweddi, Gwawl, ac yn priodi. Ond nid oedd hapusrwydd yn rhwym o’u dilyn, ac mae Rhiannon yn cael ei chyhuddo ar gam o ladd eu plentyn newydd-anedig, sydd wedi diflannu. Nid ydy Pwyll yn lladd nac yn ysgaru Rhiannon, ond yn gorfodi penyd arni. Caiff Rhiannon ei hun yn gaethwas sy’n gorfod cyflawni’r tasgau mwyaf israddol; yn cludo gwesteion ar ei chefn yn ôl ac ymlaen o’r palas. Mae ei phenyd yn parhau saith mlynedd, hyd nes y mae eu mab Pryderi yn ail-ymddangos a phrofi na allai hi fod yn euog.
Arianrhod
Nid oedd Math, Arglwydd Gwynedd, yn gallu goroesi heb orffwys ei draed ar liniau gwyryf. Pan gaiff ei wyryf Goewin ei threisio, mae gwyryf arall, Arianrhod, yn cymryd ei lle.
Roedd rhyw wedd rhannol elfennol i Arianrhod, merch wyllt Dôn, oedd yn sicr â meddwl ei hun. Derwydd a chonsuriwr digon anfoesgar ydy ei brawd Gwydion, ac mae’n herio ei chwaer i gamu dros ei hudlath er mwyn profi ei bod yn wyryf. Wrth wneud, mae Arianrhod yn rhoi genedigaeth i efeilliaid gwrywaidd. Mae un, Dylan, yn cropian i’r môr, lle daw yn dduw’r tonnau; mae ei frawd yn cael ei ddwyn a’i fagu gan Gwydion.
Mae rhyw awgrym mai mab Gwydion wedi ei eni i’w chwaer ydy’r ail efaill. Aiff y derwydd ati i fagu’r plentyn penfelyn, sydd, fel pob arwr mewn chwedloniaeth, yn tyfu’n syfrdanol o gyflym i fod yn ymladdwr dewr a golygus. Pan ddaw Arianrhod i gyfarfod â’r plentyn, mae hi’n ei wrthod tair gwaith. Y tro cyntaf, dywed na all fod yn berson go iawn gan nad oes ganddo enw, ond mae Gwydion yn ei thwyllo i roi iddo’r enw Lleu, neu’r Un Penfelyn. Yr ail dro mae’n ei felltithio fel na chai fyth ddwyn arfau, ond caiff ei thwyllo eto. Ei thrydedd felltith ar y bachgen ydy mynnu na chaiff fyth wraig. Ond mae Gwydion yn creu gwraig iddo o flodau, ac yn ei galw’n Blodeuwedd.
Blodeuwedd
Creuwyd Blodeuwedd i fod y ferch berffaith; ufudd, prydferth a ffyddlon, ond mae ysbryd gwrthryfelgar ynddi, ac mae’n canfod cariad, Gronw Pebr. Mae Blodeuwedd yn cynllwynio i ladd Lleu, ond mae yntau yn canfod y cynllwyn, ac fel cosb mae Gwydion yn ei throi’n dylluan - gelyn yr adar eraill i gyd.
Gwenhwyfar ac Arthur
Mae stori’r Brenin Arthur a’i wraig Gwenhwyfar wedi ei hadrodd a’i hail adrodd drosodd a throsodd ar hyd y canrifoedd, ond daeth yn amlwg bod tarddiad y straeon Arthuraidd wedi ei wreiddio mewn chwedloniaeth Geltaidd. Mae rhai testunau yn honni i Arthur fod yn briod â thair merch o’r enw Gwenhwyfar, sy’n ei gwneud yn fwy o dduwies driphlyg nac yn berson o gig a gwaed. Caiff ei hadnabod am ei charwriaeth efo Lawnslot, un o farchogion ffyddlonaf y brenin, ac yn aml ymddengys iddi gael y bai am dranc Arthur a Phrydain fel ei gilydd. Er bod sawl cyfeiriad hefyd at gariadon Arthur, nid ydy’n ymddangos i’r rhain gael eu beirniadu yn yr un modd.
Hyd yn oed wrth geisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng dynion a merched mewn chwedloniaeth a mytholeg Geltaidd, mae’n amhosib anwybyddu presenoldeb anferthol Arthur yn y meysydd hyn. Cymaint ydy’r hud sy’n gysylltiedig ag o, bu’r cenhedloedd Celtaidd i gyd yn ceisio ei hawlio fel un o’u meibion. Yn ddiweddar bu rhai yn ceisio ei ddarlunio yn fwy fel milwr proffesiynol a charismataidd yn hytrach na brenin.
‘Arweinydd milwrol penigamp wedi ei gyflogi’n swyddogol gan gynghrair o frenhinoedd Prydeinig i ryfela ar eu rhan yn erbyn pob gelyn - mae "Dux Bellorum" yn trosi’n llythrennol yn Ddug y Brwydrau.’ Nennius, Historia Brittonum
Pan mae Arthur yn ymddangos yn y Mabinogi, caiff ei bortreadu fel rhyw fath o dduw mytholegol. Ac er i Sieffre o Fynwy a Thomas Malory geisio ei droi’n chwedl, daw drosodd fel dyn o gig a gwaed a fu fyw, a garodd, a frwydrodd ac a fu farw.
Branwen
Branwen oedd merch Llŷr, duw’r môr. Ei brawd Bran, neu Bendigeidfran, oedd brenin Ynys y Cedyrn, neu Brydain, a threfnodd iddi briodi’r brenin Gwyddelig, Matholwch. Ymddangosai eu priodas yn un hapus hyd nes i’w hanner brawd gwallgof Efnisien daflu sen ar ei gŵr. Mae Bran yn rhoi anrheg iddo o grochan hud er mwyn ceisio tawelu’r dyfroedd, ond mae Matholwch yn parhau’n flin am y sarhad, ac yn cosbi Branwen drwy ei darostwng o fod yn wraig iddo i fod yn gaethwas. Llwydda Branwen i hyfforddi drudwen i gludo neges i’w brawd i’w hysbysu o’i sefyllfa, ac mae yntau’n ymateb drwy ddatgan rhyfel yn erbyn Iwerddon. Mae brwydro ffyrnig yn digwydd yn sgil hyn, ac yng nghanol hyn mae Efnisien yn lluchio mab bychan Branwen i’r tân. Defnyddia’r Gwyddelod y crochan hud er mwyn dod a’r meirw’n ôl yn fyw i frwydro eto. Mae Efnisien, yn llawn edifeirwch, yn penderfynu atal hyn drwy aberthu ei hun, ac yn neidio i’r crochan, gan ei hollti’n ddwy. Wrth i’r brwydro ddirwyn i ben, yr unig rai i oroesi ydy pum Gwyddeles feichiog a saith Brython. Mae Branwen yn marw o dorcalon, gan felltithio hurtrwydd y dynion a ddinistriodd y ddwy wlad yn ei henw hi. Claddwyd hi ar lan Afon Alaw ar Ynys Môn.
Olwen
Un o’r straeon mwyaf adnabyddus a gafaelgar yn y Mabinogi ydy’r un am Gulhwch ac Olwen, ond sydd mewn gwirionedd yn stori am Arthur a’i farchogion. Mae ynddi’r holl gynhwysion am stori dda - proffwydoliaeth; tad Olwen, cawr o’r enw Ysbaddaden sydd wedi ei felltithio i farw os fyth bydd ei ferch yn priodi; a chwest, wrth i Gulhwch gael ei brofi â nifer o orchestion amhosib eu cyflawni. Yn rhyfeddol iawn am chwedl Geltaidd, daw’r cyfan i ddiweddglo hapus, er na ddysgwn nemor ddim am gymeriad Olwen. Yr oll a wyddom am y ferch ydy ei bod yn hynod brydferth, un o’r delfrydau cyson yn y byd Celtaidd.
'Ac fe ddaeth, gyda gwisg o sidan fflamgoch amdani, ac o amgylch gwddf y forwyn oedd torch o aur coch, a gwisgai berlau a rhuddem. Roedd ei gwallt yn felynach na blodau’r banadl, a’i chroen yn wynnach nag ewyn ton; cledrau ei dwylo a’i bysedd yn wynnach nag egin meillionen o blith gro man ffynnon ffrydiol. Nid oedd yr un llygad yn y byd i gyd, rhai’r hebog na’r gwalch, yn decach na’r rhai o’i heiddo hi. Roedd ei bron yn wynnach na bron yr alarch; a’i gruddiau yn gochach na bysedd y cŵn. Syrthiai pawb a’i gwelai mewn cariad llwyr â hi. Blagurai pedwar meillionen yn ei chysgod lle bynnag y cerddai; am y rheswm yna adnabyddid hi fel Olwen.’
Diweddariad o’r Mabinogi
Y Mórrígan
Mewn chwedloniaeth Wyddelig, y Mórrígan ydy prif dduwies marwolaeth, rhyfela a thywallt gwaed. Golyga ei henw ‘Y Frenhines Fawr’. Mae ei dylanwad a’i phresenoldeb yn britho chwedloniaeth Wyddelig, gan symboleiddio rôl ddeublyg rhywioldeb a dinistr - yr awydd i fyw, a’r angen i farw er mwyn cadw’r rhod i droi. Yn aml mynnai’r Mórrígan gyfathrach rywiol ag arwyr, cyn eu gwobrwyo â chymwynasau goruwchnaturiol. Ond gwae nhw pe gwrthodant, gan iddi ddial yn ddidrugaredd arnynt. Pan wrthoda Cúchulainn ei chorff, mae’n ymosod arno fel yslywen, fel blaidd, ac yna fel buwch. Roedd hi’n bresennol pan fu o farw, yn y ffurf y gwelwyd hi ynddo fynychaf - y frân. Crybwyllir y Mórrígan yn aml fel duwies driphlyg; Macha, Badb a Nemain. Ar brydiau bydd y rhain yn ymddangos fel duwiesau unigol eu hunain.
Macha
Roedd Macha yn feichiog â phlentyn Cruinniuc, Brenin Uladh, dyn hynod ymffrostgar. Un dydd mynnodd y gallai Macha redeg yn gyflymach na cheffylau’r brenin. Pan orchmynnodd yr Uwch Frenin hi i brofi hynny, plediodd Macha ag o a’i gynulliad i ganiatáu iddi roi genedigaeth yn gyntaf.
‘Cynorthwywch fi, oherwydd mae mam wedi geni pob un ohonoch!’
Gwrthododd yr Uwch Frenin, rhedodd Macha y ras a’i hennill, gan esgor wrth groesi’r llinell derfyn. Wrth anwesu ei gefeilliaid, melltithiodd hi holl ddynion Uladh. Trawyd nhw gan boenau genedigaeth dros bum niwrnod a phedair noson bob blwyddyn. Yr unig eithriadau i hyn oedd bechgyn ifanc a Cúchulainn, a oedd yr unig ymladdwr abl ar ôl pan ddechreuodd ymosodiad Medb.
Nemain – Cynddeiriogrwydd
Pan ymddangosai Nemain ar faes y gad, ysgubai fraw drwy fyddinoedd. Roedd ei chri erchyll yn gallu taro ymladdwyr yn farw dim ond o’i chlywed.
Badb – Llid, cynddaredd a thrais
Gan ymddangos yn aml ar ffurf gwrach neu frân, hi oedd cennad marwolaeth ar faes y gad. Roedd ganddi lawer yn gyffredin efo Agroná o’r chwedlau Cymreig, a welwyd yn aml fel hen ddynes yn cynnig golchi breichiau’r milwyr oedd ar fin cael eu lladd yng ngwres y frwydr.
Yr Ymladdwyr
Medb, rhyfelwraig – Brenhines Connacht
Ystyr enw Medb, yn tarddu o’r un gwreiddyn â’r geiriau medd a meddwi, ydy ‘hi sy’n meddwi dynion’. Mae sawl merch o’r un enw mewn chwedloniaeth Wyddelig, un ohonynt yn dduwies rhyfel. Ond down ar draws Medb, Brenhines Connacht, yn stori’r Táin Bó Cúailnge - hanes y cyrch ar wartheg Cooley. Dyma un o’r straeon enwocaf a difyrraf o Gylch Uladh.
Yr argraff a gawn o Medb ydy o ferch drahaus, farus ac ymffrostgar. Mae’n ferch i’r Uwch Frenin Eochaid Féidlech, ac yn briod efo brenin arall, Ailill o Gonnacht.
Cwrddwn â nhw gyntaf oll a hwythau yn eu gwely yn eu palas yn Cruachain, pryd mae’r mân siarad yn troi’n frolio a gwrthdaro.
‘Myfi, Medb, ydy’r uchaf a’r talogaf o’m brodyr a chwiorydd. Trechais hwy mewn gosgeiddrwydd a rhoi, ac ymladd a brwydro rhyfelgar.’
Diweddglo’r olygfa ydy anghytundeb ynglŷn â hoff darw Ailill. Mewn pwl o genfigen, mae Medb yn arwain pobl Connacht i ryfel yn erbyn Uladh yn ei hymdrechion i gael gafael ar darw llawn cystal sydd ym meddiant y brenin yno, Tarw Gwinau Cúailnge. Merch dwyllodrus a pheryglus o benderfynol ydy Medb. Fel cerbydwraig mawr ei bri, mae’n arwain ei milwyr i ganol y frwydr ei hunan. Mae’n profi ei hun i fod yn arweinydd milwrol a strategwraig hynod alluog, a llwydda hyd yn oed i glwyfo’r arwr Cethern mewn sgarmes un am un.
Nid ydy Medb yn ymddangos i fod yn fam feithringar. Mae iddi hi ac Ailill saith mab, pob un mae’n ymddangos efo’r enw Maine, ac un ferch, Findbhair. Nid ydy’n amlwg sawl un o’r meibion a gollwyd yn ystod y brwydro, nid fod hynny’n ymddangos i boeni’r rhieni. Cysga Medb â sawl pencampwr er mwyn eu hudo i gynghreirio â hi, ac mae hefyd yn cynnig ei merch fel abwyd rhywiol i geisio cyrraedd yr un nod. Mae’n tra-arglwyddiaethu dros Findbhair, ac yn ei gormesu, efo’r ferch yn gymeriad cwbl groes i’w mam; tyner, cariadus, ffyddlon a doeth. Mae eu perthynas yn y diwedd yn dinistrio Findbhair, sy’n boddi ei hun yn ei thristwch. Mae sawl fersiwn yn cynnig eu hunain ynglŷn â diwedd Medb, ond ymddengys i’r cyfan ohonynt ddigwydd ar lan dŵr, man o ddoethineb i’r Celtiaid. Mewn un stori caiff ei lladd gan waywffon, tra mewn un arall mae’n marw o un ergyd o gatapwlt.
Nessa
Wedi ymddeol o fywyd o frwydro, penderfyna Nessa troi dalen newydd a phriodi Fachtna, Brenin Uladh. Mae ganddi fab, Conchobar mhac Nessa, a gymerodd ei henw hi yn hytrach nag un ei dad. Pan fu farw Fachtna, mae Nessa yn priodi ei frawd Fergus, ond ar yr amod bod ei mab yn cael teyrnasu fel brenin am flwyddyn. Tra ar yr orsedd, ac o dan gyfarwyddyd ei fam, profa Conchobar i fod yn llwyddiant mawr fel brenin, mor boblogaidd efo’r bobl nes iddo allu gwrthod ymgais Fergus i ail-afael yn ei orsedd ar ddiwedd y flwyddyn.
Feldem Noichrothach (Prydferthwch Nawphlyg)
Feldem oedd wyres Nessa, a daeth hithau hefyd yn enwog ar faes y gad, ac am ei harchwaeth am briodi cyfres o arwyr.
'Nid oedd neb yn hafal â hi â’r cleddyf, na’r waywffon, pan ddeuai twymyn y frwydr arni.'
Cylch Uladh
Coinchend
Yng Nghylch y Brenhinoedd, cwrddwn ag Art, arwr a mab Conn. Mae’n syrthio mewn cariad efo merch o’r enw Delbchaem, y mae ei rhieni Coinchend a Morgan yn byw ar ynys sy’n llawn angenfilod, Iona o bosib. Roedd proffwydoliaeth wedi rhagweld y bysa ei mam Coinchend yn marw pe byddai ei merch byth yn priodi. Roedd Coinchend wedi llofruddio nifer o ddarpar gariadon ei merch, gan adael eu pennau ar bolion fel rhybudd. Dywedwyd fod ganddi ‘nerth cant o ddynion mewn brwydr’. Serch hynny, profodd Art yn drech na hi, gan ladd Coinchend a gosod ei phen ar bicell cyn arwain Delbchaem i’w wely.
Mis
Nid ymladdwraig oedd Mis, ond merch Daire Doidgheal, a fu’n brwydro yn erbyn Fionn a lluoedd y Fianna. O ganfod corff ei thad ar ôl y frwydr, gwrthoda Mis yn lân a derbyn ei fod wedi marw, a cheisia ei adfer drwy sugno’r gwaed o’i glwyfau. Mae ei methiant yn ei gwneud yn wallgof, ac mae’n rhedeg i ffwrdd i’r mynyddoedd, gan ladd unrhyw un sy’n dod yn agos ati. Efallai oherwydd effaith y gwaed y bu’n ei sugno, mae ei chorff yn raddol yn troi’n gorff bwystfilaidd.
'Tyfodd ffwr a blewiach drosti; mor hir nes iddo lusgo ar y ddaear.'
Gan deimlo ei bod hi bellach yn fygythiad i’w deyrnas, cynigiodd y Brenin wobr i unrhyw ymladdwr a allai ei dal. Nid oedd hon yn swydd oedd wrth fodd unrhyw un o’r ymladdwyr, a gorfu i gerddor mwyn dderbyn yr her. Telynor oedd Dubh Ruis, a theithiodd i’r mynyddoedd efo’i delyn. Gan orwedd ar graig, dechreuodd ganu’r delyn. Clywyd hyn gan Mis, a swynwyd hi gan atgofion bregus o’i bywyd blaenorol. Aeth yn araf nes, a dangosodd y cerddor aur ac arian iddi, gan sbarduno ei chof ymhellach. Pan ddaw hi’n ddigon agos cynigia Dubh Ruis ei gorff iddi, ac maen nhw’n mwynhau cyfathrach rywiol.
Mae hyn yn tawelu ofnau Mis yn ddigonol iddi drafod ei gofidiau. Mae Dubh yn codi caban iddynt yn y mynyddoedd, a thros y ddau fis nesaf mae’n golchi’r budreddi o’i chorff ac yn arwain ei meddwl yn ôl o’r dyfnderoedd lle y bu. Syrthia’r ddau mewn cariad, ac yn raddol mae’r cariad hwn yn dofi’r ‘gwylltineb yn ei henaid’.
Aiff Dubh Ruis a Mis yn ôl i’w gartref a’i phriodi ond, fel arfer, diweddglo trist sydd i’r stori wrth i’r cerddor gael ei ladd gan rai o’r ymladdwyr a wrthododd her y brenin.
Étaín
Mewn ffordd gellid dweud mai'r un ferch ydy Olwen ac Étaín, yn sicr yr un ddelfryd. Ac mae enw arall iddi, Echraidhe - y farchoges, yn ei chysylltu â Rhiannon. Canfyddwn ni hi yn 'Canlyn Étaín' o'r cylch mytholegol Gwyddelig, stori amlochrog am fywyd, marwolaeth, llosgach ac ail-eni.
Caiff Étaín ei hail-eni nifer o weithiau fel amrywiol ferched a chreaduriaid - ei phrydferthwch yn achosi i ddynion grino'n ddim o feddwl amdani, neu i wallgofi yn eu serch. Fel Olwen, nid ydy Étaín wedi ei hymgnawdoli fel person, ond yn hytrach mae'n ddelfryd y caiff dynion frwydro drosti.
'Rhaid profi pob hyfryd ffurf gan Étaín, pob prydferthwch wrth ei safonau hi.'
Gráinne
Mae Gráinne yn hollol wahanol i Étaín; merch wyllt, angerddol a thwyllodrus sydd wedi mopio ar y syniad o foneddigeirwydd ymysg dynion. Roedd yn ferch i Uwch Frenin Iwerddon ac ar un pryd wedi dyweddïo â Fionn mhac Cumhaill, dyn fu unwaith yn rymus ond erbyn hynny yn crymu yn ei henaint. Ar noswyl ei phriodas mae'n ceisio hudo mab Fionn, Oisin, i'w gwely. Ond pan mae yntau'n ei gwrthod, mae'n twyllo Diarmud, milwr ffyddlon ym myddin Fionn, i redeg i ffwrdd efo hi.
Er mor atgas y mae Gráinne tuag ato, mae Diarmud yn syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â hi. Ymhen hir a hwyr, ar ôl i Fionn eu herlid am amser maith, dychwela Diarmud a Gráinne. Mae popeth i'w weld yn iawn tan gaiff Diarmud ei ladd wrth hela efo Fionn. Mae Gráinne yn beio Fionn am ei cholled, ac yn ei galar yn datgan ei chasineb tuag ato, ond yn fuan mae hyn yn troi'n chwant rhywiol. Yn Gráinne, gwelwn ferch y mae dynion yn ei deisyfu ond na allan nhw ymddiried ynddi. Caiff ei dwrdio am fod mor anwadal mewn modd nag ydy'n digwydd i Cúchulainn, er iddo yntau ddangos yr un agwedd at ferched.
Deirdre
Mae hanes Deirdre yn debyg, os tristach. Ar ei genedigaeth, proffwydwyd y bysa ei harddwch rhyfeddol yn dod â marwolaeth a dinistr i dir Iwerddon. Gan wybod hyn, ceisiodd ei thad ei lladd pan oedd hi'n faban, ond cafodd ei rwystro gan y Brenin Conchobar, a'i magodd hyd nes y tybiai roedd yn ddigon hen iddo ei phriodi.
Ond cyn i’r brenin allu ei phriodi, syrthiodd Deirdre mewn cariad efo Naoise, ymladdwr, heliwr a chantor ifanc a golygus, a rhedeg i ffwrdd ag o. Mae Conchobar o'i go, ac mae'n anorfod ei fod yn mynd i chwilio amdanynt. Yn y diwedd mae'n eu canfod yn Yr Alban, lle mae'r ddau yn byw'n ddedwydd ac wedi dechrau magu teulu.
Ar ôl derbyn addewidion lu na fyddan nhw mewn unrhyw berygl, cânt eu darbwyllo ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd i Iwerddon. Celwydd noeth oedd hyn, a chaiff Naoise a'i frodyr eu llofruddio. Mae Conchobar yn rhydd i gymryd Deirdre fel ei wraig ond, er ei bod yn gorfforol briod ag o, mae ei chalon yn oer o gasineb tuag ato. Ar ôl goddef ei sefyllfa am flwyddyn, gwaethyga sefyllfa Deirdre ymhellach wrth i Conchobar ei chyflwyno i'r unig ddyn mae'n casáu'n fwy na'i gŵr - Eogan, y dyn a daflodd y waywffon a laddodd Naoise. Ar ei ffordd i'w hunllef o fywyd newydd efo Eogan, mae'n hyrddio'i hun o'i gerbyd-llusg, ac ar ei phen i greigiau sy'n disgwyl i ddiffodd ei bywyd.
Y Rhai Cain
Gwenllïan
Roedd Gwenllïan yn ferch i Gruffudd ap Cynan, Tywysog Gwynedd, a ganwyd hi yn Aberffraw, Ynys Môn. Roedd hi'n briod â Gruffydd ap Rhys, brawd i Nest o Ddyfed, a gwrthryfelwr blaengar yn erbyn y Normaniaid. Roeddynt yn byw yn nhywysogaeth Deheubarth, a bu'r ddau yn weithgar mewn gwrthryfel parhaol yn erbyn y Normaniaid.
Ym 1136 teithiodd Gruffydd i'r gogledd i drafod eu camau milwrol nesaf efo tad Gwenllïan, ac yn ei absenoldeb ymosododd y Normaniaid. Arweiniodd ac ysbrydolodd Gwenllïan y milwyr oedd ar ôl, gan orfodi'r gelyn i lochesu yn eu castell yng Nghydweli. Yn niogelwch y castell ad-drefnodd y Normaniaid eu lluoedd, ac wedi ymbaratoi'n llawn pan ddaeth Gwenllïan i ymosod arnynt am yr eildro. Canfu ei hun yn ymladd i gadw'i chefn, ac mae cae a ffynnon wedi eu henwi ar ei hôl yn y man lle lladdwyd hi. Bu enw Gwenllïan yn rhyfelgri i'r Cymry llawn cymaint â fu un Buddug i'r Iceni.
Siwan
Pan gytunodd Llywelyn Fawr (Llywelyn ab Iorwerth) i blygu i'r Normaniaid ym 1204, caniatawyd iddo deyrnasu dros ei dywysogaeth Gymreig efo rhai amodau. Cynhwysa'r rhain briodas wedi ei threfnu rhyngddo a merch y Brenin John, sef Joan. Roedd yn ferch alluog ac egniol iawn, a buan iawn y daeth i ddysgu Cymraeg a chael ei hadnabod fel Siwan. Er gwaetha'r ffaith mai priodas drwy drefniant oedd hi, syrthiodd Llywelyn mewn cariad â hi, a daeth i ddibynnu llawer ar ei galluoedd rhyfeddol i gyd-drafod ag eraill.
Ym 1230 bu Siwan mewn carwriaeth fer efo Gwilym Brewys, neu William de Braose. Wedi ei frifo a'i gynddeiriogi, carcharodd Llywelyn ei wraig a chrogodd Gwilym. Ond ymhen blwyddyn profodd cariad yn drech na theimladau, ac unwyd Llywelyn â Siwan unwaith eto. Aethant i fyw i'w lys yn Abergwyngregyn, a phan fu farw claddwyd hi ar draws y Fenai ym Mhriordy Llan-faes ar Ynys Môn. Mae ei harch i'w gweld yn Eglwys Biwmares.
Gwerful Mechain o Bowys (1462 -1500)
Gwlad y beirdd fu Cymru erioed, traddodiad sydd wedi parhau dros y canrifoedd o Aneirin a Thaliesin hyd at heddiw. Bodola corff enfawr o gerddi gan feirdd gwrywaidd, ond prin ddim o waith merched - efo un eithriad nodedig.
Bu Gwerful Mechain yn barddoni ar adeg pan oedd y dynion yn creu gweithiau cymhleth yn gorlifo o ddawn ieithyddol, yn aml yn ddeunydd amlwg rywiol. Gan lynu at draddodiadau a rheolau'r gynghanedd a'r cywydd, nid mater bach oedd creu'r campweithiau hyn. Mae cywydd yn cynnwys cyfres o gwpledi saith sill mewn cynghanedd, y llinellau'n gorffen am yn ail yn ddibwyslais ac yna efo pwyslais. Rhan fechan yn unig o waith Gwerful y gellid ei ddisgrifio'n erotig, ond mi ddefnyddiodd yr arddull yn hynod effeithiol, gan herio ac ysgwyd yr hierarchiaeth farddol wrywaidd. Bu hi'n portreadu'r ferch mewn modd rywiol ymosodgar, rhywbeth hollol annerbyniol ar y pryd, pan oedd disgwyl i'r ferch fod yn oddefol ym mhob ystyr.
Mae barddoni a llefaru yn grefftau sy'n hynod fyw ac iach yng Nghymru, ac yn gymaint rhan o'r diwylliant â cherddoriaeth. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig llwyfan rhyfeddol sy'n meithrin doniau arbennig iawn yn y celfyddydau oll, ond erys barddoniaeth a cherddoriaeth yn guriad calon iddi.
Gráinne Ní Mháille (Mhaol â'r Gwallt Toredig)
Roedd Gráinne, sy'n cael ei hadnabod fel Grace O’Malley yn Saesneg, yn gymeriad hynod ddiddorol a dygn. Yn ferch i Eoghan O Mháille, pennaeth morwrol o Maigh Eo, priododd Donal o Gonnacht pan oedd hi'n bymtheg mlwydd oed a chael tri o'i blant. Ym 1588 pan esgynnodd Elisabeth I i orsedd Lloegr, roedd Gráinne yn wyth ar hugain oed, pedair blynedd yn unig yn iau na'r frenhines.
Dechreuodd Elisabeth ymyrryd mewn materion gwleidyddol yn Iwerddon, ac ymosododd ei lluoedd ar gaer Donal. Er i'w gŵr gael ei ladd yn ystod y brwydro, llwyddodd Gráinne i amddiffyn y castell.
Pan ddychwelodd i Maigh Eo efo'i theulu a'i dynion, trechodd pob ymgais wrywaidd i gael rheolaeth dros fflyd ei thad, a dechreuodd warchod yr arfordir. Ymhen hir a hwyr trodd hyn yn fôr-ladrata, gan ymosod ar ac ysbeilio unrhyw longau Seisnig iddi eu canfod ger yr arfordir o Gonnacht i An Mhumhain. Daeth i gael ei chydnabod fel môrleidres o fri, efo tair llong gyflym ac o leiaf dau gant o ddynion o dan ei hadain.
Ym 1556 priododd Gráinne â Risteard-an-Iarainn Bourke, oedd wedi ei lysenwi yn "Rhisiart o Haearn" -
‘ysbeiliwr rhyfelgar, swnllyd a gwrthryfelgar’.
yn ôl The Four Masters
Priodwyd nhw o dan drefn cyfraith Brehon, oedd yn caniatáu iddynt briodi ar brawf am ddwy flynedd. Parhaodd eu perthynas, er yn un dymhestlog, a rhoddodd Gráinne enedigaeth i'w mab tra ar fwrdd un o'i llongau. Yn fuan ar ôl yr enedigaeth ymosodwyd ar y llong gan fôr-ladron o ogledd Affrica, a bu'n rhaid i Gráinne adael ei phlentyn er mwyn ymuno â'i dynion ar y dec, â'i chleddyf yn ei llaw.
‘Beth?’ rhuodd wrth ei dynion. ‘Allwch chi ddim ymdopi hebof am un diwrnod?’
Enwyd ei mab yn Tibbot na Long (Tibbot y Llong) i ddangos sut y cyrhaeddodd y fuchedd hon.
Daeth ei gorchestion ar y môr â Gráinne i sylw'r Saeson. Ymdrechwyd sawl tro i'w chael i blygu i'r drefn, ond yn aflwyddiannus. Roedd llongau Gráinne wedi eu seilio ar ddyluniad y birlinn o ynysoedd Heledd, yn gryfion ond yn hawdd i'w llywio, efo rhwyfau a hwyliau. Cafodd ei dal a'i charcharu ddwywaith, ond wastad daeth yn ôl i herio ei gelynion. A phrofodd ei hadnabyddiaeth o'r moroedd lleol yn erfyn amhrisiadwy yn ei dwylo.
Pan fu farw Risteard ym 1583, trodd Gráinne unwaith eto at gyfraith Brehon a mynnu ei hawl fel arweinydd. Cynyddodd diddordeb Elisabeth yn Iwerddon fel y cynyddodd gweithgaredd anghyfreithlon Gráinne. Bu'n cludo hurfilwyr i Iwerddon i frwydro yn erbyn y trefedigaethwyr Seisnig, a gwnaeth ei hun yn hynod amhoblogaidd efo llywodraethwr newydd Connacht, Syr Richard Bingham. Dialodd arni drwy gipio'i mab Tibbot a'i gymryd yn wystl. Bingham oedd ei gelyn pennaf, a ni wrthododd yntau unrhyw gyfle i ymosod nac i aflonyddu arni.
Ym 1593, a hithau bellach yn dair a thrigain mlwydd oed, blinodd Gráinne ar ei brwydro efo Bingham. Mewn cam mentrus a pheryglus, penderfynodd geisio cyfarfod ag Elisabeth yn uniongyrchol. Ymddengys bod Elisabeth yn chwilfrydig ynglŷn â'r Wyddeles wyllt, a threfnwyd i'r ddwy gwrdd. Trafodwyd yn Lladin, iaith roedd y ddwy yn ei deall, er mae'n bosib fod Elisabeth wedi rhoi cynnig ar ambell air o'r Wyddeleg. Dywed ambell adroddiad o'r cyfnod i'r Frenhines orfod dal ei llaw yn uchel i Gráinne ei chusanu, gan i’r Wyddeles fod yn llawer talach, ac i Gráinne ystyried y cyfarfod i fod yn un rhwng dwy arweinyddes gyfartal.
Llwyddodd cast Gráinne, a gorfodwyd Bingham i ddychwelyd i Loegr ymhen deunaw mis. Derbyniodd Gráinne hefyd lythyr gan Elisabeth yn ei hawdurdodi i 'grogi gelynion y Frenhines', yn ymddangosiadol caniatâd i ddychwelyd at fôr-ladrata.
Bu farw'r ddwy ym 1603, a chladdwyd Gráinne ar Ynys Cliara, wedi ei hamgylchynu gan y môr y carai gymaint. Mae'r straeon am Gráinne yn dal i gyfareddu, ac mae hi wedi ei hanfarwoli fel arwres Wyddelig mewn cân, barddoniaeth a chelf.
Claddfa Boneddiges Vix
Y dystiolaeth gryfaf fod merched yn mwynhau statws ddyrchafedig, ac yn cael eu trin yn llawn mor oleuedig ar ôl marwolaeth, oedd canfyddiad y gladdfa hon, ger Bwrgwyn yn Ffrainc. Credir i'r safle ddyddio o tua 500CC, ac roedd y bedd ei hun yn cynnwys gweddillion metelaidd cerbyd-llusg, gemwaith hardd yn arddull La Tène , a llestr efydd addurnedig cain - y Krater.
Macha Mong Ruadh – Macha Mwng Coch
Mae'n anodd gwybod yn iawn os ydy'r Macha hon yn perthyn i chwedloniaeth neu hanes, ond yn ôl 'traddodiad hanesyddol' Macha â'r 'mwng coch' oedd yr unig ferch i'w chrybwyll mewn rhestr o Uchel Frenhinoedd Iwerddon. Roedd ei thad Aedh Ruadh yn rhannu ei deyrnas efo'i gefndryd mewn rhyw fath o gyfundrefn rota. Pan fu farw ei thad, hawliodd Macha y goron. Gwrthododd ei chefndryd a derbyn merch ar yr orsedd, felly aeth i ryfel yn eu herbyn, gan ladd un, a chymryd un arall yn wystl cyn yn ddiweddarach ei briodi. Buont yn teyrnasu ar y cyd am saith mlynedd, ac wedi ei farwolaeth teyrnasodd Macha ar ei phen ei hun.
Buddug
Dyma ddisgrifiad Cassius Dio o Fuddug, neu Boudicca, brenhines llwyth yr Iceni, yr oedd ei henw'n tarddu o'r gair am fuddugoliaeth.
‘Roedd hi'n dalsyth ac yn ddychrynllyd iawn ei gwedd, yn ffyrnig ei llygad ac yn gras ei llais; twmpath anferthol o wallt llwydfelyn yn syrthio at ei chluniau; o amgylch ei gwddf oedd modrwy-wddf euraid fawr; a gwisgai diwnig o liwiau amrywiol o dan fantell drwchus, wedi ei chlymu â broets.'
Roedd Buddug yn briod â Prasutagus o lwyth yr Iceni, yn Nwyrain Anglia fel y caiff ei adnabod heddiw, ac roedd ganddynt ddwy ferch. Bu farw Prasutagus yn 60OC, gan adael ei gyfoeth a'i orsedd i'w ferched, ond hawliwyd y rhain gan y Rhufeiniaid, oedd wedi tybio eu bod eisoes wedi dofi a chymathu'r llwythi hyn. Tua'r un pryd roedd cadarnle'r Brythoniaid a'u derwyddon ar Fona, neu Ynys Môn, o dan warchae gan Suetonius Paulinus, ac roedd byddin y Rhufeiniaid wedi ei gor-hymestyn.
Anfonodd y procuradur Rhufeinig Gaius Catus Decianus ei luoedd i deyrnas yr Iceni, ar ôl anrheithio llwyth cyfagos y Trinovante. Dechreuodd gipio eu tiroedd a'u pobl, a'u cymryd yn gaethweision. Gwrthwynebodd Buddug hyn yn ffyrnig, ond cafodd ei llusgo o'i chartref, rhwygwyd ei dillad oddi arni, a fflangellwyd hi'n gyhoeddus wrth i'w dwy o ferched gael eu treisio o'i blaen. Cafodd eraill eu curo neu eu cipio ymaith fel rhybudd i'r Celtiaid i beidio â chamymddwyn.
Daeth Buddug trwy'r cyfan nid yn unig fel unben yr Iceni, ond eu harweinydd rhyfel yn ogystal. Ar ôl sicrhau cymorth milwrol gan lwythi'r Trinovante, y Coritani a'r Catuvellauni, dechreuodd Buddug ar wrthryfel eofn yn erbyn y Rhufeiniaid. Ei tharged cyntaf oedd hen brifddinas y Trinovante, yr oedd y Rhufeiniad wedi ei alw yn Camulodunum (Colchester heddiw) a'i fabwysiadau fel prifddinas Rufeinig Prydain. Llwyddodd lluoedd Buddug i ragodi a chwalu bron yn llwyr lleng gyfan o filwyr Rhufeinig o dan arweinyddiaeth Cerialis, oedd ar eu ffordd i amddiffyn eu prifddinas. Cipiwyd Camulodunum, a gwnaeth byddin Buddug ei ffordd tuag at Lundain. Efo Catus Decianus wedi ffoi i Gâl, bu'n rhaid i Gaius Suetonius Paulinus hel nifer o filwyr at ei gilydd a cheisio cyrraedd Llundain cyn Buddug. Sylweddolodd nad oedd ganddo ddigon o ddynion i ymladd yn ei herbyn yno, ac aeth â nhw tua'r gogledd, gan adael Llundain bron yn ddiamddiffyn.
Lladdwyd pob Rhufeiniwr a chrefftwr yn Llundain fel ei gilydd ganFuddug, a loddestodd, yn ôl Tacitus, mewn
‘creulondeb didrugaredd, heb unrhyw ymdrech ar gipio caethweision, ac yn llwyr ddinistrio'r anheddiad.’
Mae adroddiadau eraill yn fwy lliwgar. Nododd Cassius Dio;
‘Cafodd pendefigesau Rhufeinig eu trywanu ar bolion, eu bronnau wedi eu torri i ffwrdd a'u gwnïo i'w cegau, i gyfeiliant ebyrth, ciniawa, ac ymddygiad masweddol mewn mannau sanctaidd, yn arbennig celli Andrasta.’
Cafodd Verulamium (St Albans) yr un driniaeth gan fyddin Buddug, cyn i'w lluoedd anelu am y gogledd ar ôl Paulinus, oedd yn arwain yr unig fyddin Rufeinig o unrhyw faint sylweddol oedd ar ôl ym Mhrydain. Credai Buddug, pe byddai yn gallu eu trechu, y byddai Prydain yn rhydd o'r Rhufeiniaid. Ond, fel efo hanes y cyfnod hwn i gyd, dim ond safbwynt y Rhufeiniaid sy'n hysbys i ni. Cawn wybod bod Gaius Suetonius Paulinus wedi hawlio tir uchel efo coedwig tu cefn iddo, troedfilwyr yn y canol, a marchogion o boptu. Cyrhaeddodd Buddug efo ffurfiant llac o gerbydau, ac - yn ôl Tacitus - o'i cherbyd personol ei hun, ochr yn ochr â'i dwy ferch, y gwnaeth ei hanerchiad enwog.
‘Nid dyma'r tro cyntaf i'r Brythoniaid gael eu harwain i frwydr gan ferch. Mae'n rhaid i chi un ai ennill ar y maes hwn neu farw. Dyna fy mhenderfyniad, a merch ydwyf; gallwch chwi ddynion fyw, a bod yn gaethweision.'
Gwnaeth y Brythoniaid gamgymeriad dybryd ac ymosod i fyny'r rhiw, pryd y hyrddiodd Suetonius garfan o droedfilwyr atynt a'u gorfodi i encilio. Taflwyd nhw yn erbyn eu cerbydau eu hunain, a lladdwyd nifer fawr gan y Rhufeiniaid.
Anfonwyd rhagor o filwyr o Rufain maes o law i alluogi Paulinius i gadw trefn ar y Brythoniaid, gan ddechrau cyrch i ganfod a chosbi unrhyw un oedd yn anffyddlon i Rufain. Roedd y gwrthryfel ar ben, ond mae ansicrwydd hyd heddiw ynglŷn â marwolaeth Buddug. Mae ambell hanesyn yn son amdani yn yfed gwenwyn, ond sonia eraill am salwch. Noda Dio iddi gael claddedigaeth fawreddog gan y Celtiaid.
Cartimandua
Brenhines Geltaidd gynharach o dan y Rhufeiniaid oedd Cartimandua - y Ferlen Lyfndew - o lwyth y Brigante, oedd yn byw lle mae gogledd Lloegr heddiw. Roedd hi'n rymus ac yn gyfoethog, a phenderfynodd lywodraethu drwy ganiatâd y Rhufeiniaid yn hytrach na bygwth y cyfan drwy wrthryfela yn eu herbyn. Ond er gwaethaf hynny, yn 48OC torrodd gwrthryfel allan mewn rhan o'i theyrnas, efo gwrthryfelwyr Caradog hefyd yn gwneud pethau'n anodd i luoedd Rhufain yng Nghymru, gan roi Cartimandua mewn sefyllfa hynod anodd.
Yn y diwedd trechwyd Caradog a'i fyddin gan Ostorious Scapula, ond llwyddodd i ddianc a chwiliodd am noddfa ddiogel efo Cartimandua. Gan anwybyddu'r drefn Geltaidd o letygarwch, cafodd Caradog a'i deulu eu trosglwyddo i ddwylo'r Rhufeiniaid, a'u dal yn garcharorion yn Rhufain hyd at eu marwolaeth.
Priododd Cartimandua efo Venutius, ond dirywiodd eu perthynas yn enbyd, a cheisiodd Venutius sbarduno gwrthryfel yn erbyn ei wraig. Trodd Cartimandua at y Rhufeiniad, o dan adain Caesius Nasica, ac erfyn arnynt i sathru ar y gwrthryfel.
Ni chynigiodd Cartimandua unrhyw gymorth i Buddug yn ystod ei gwrthryfel hi yn 61OC, ac yn y diwedd cafodd y grym ei gipio oddi wrthi gan Venutius pan feiddiodd ei ysgaru er mwyn sefydlu perthynas efo'i yswain arfau Vellocatus. Daeth y Rhufeiniad i achub y ddau o ddwylo'r Brigantiaid, ond ni fu son pellach amdani.
Awgryma rhai haneswyr iddi hi a rhai o'i dilynwyr ffoi i Iwerddon, gan fod ar un pryd llwyth o'r enw'r Brigantiaid yn byw yng nghyffiniau Wiclo.
Elen Luyddog
Elen Luyddog oedd merch pennaeth y Brythoniaid yng Nghaer Saint neu Segontium (Caernarfon heddiw) yn y blynyddoedd Rhufeinig-Geltaidd yn y bedwaredd ganrif OC. Syrthiodd Elen mewn cariad efo a phriodi Macsen Wledig, neu Magnus Maximus, cadfridog byddin Rhufain ym Mhrydain, oedd ei hun yn rhannol o wreiddiau Celtaidd. Roedd grym Rhufain erbyn hyn yn gwegian, a'r Rhufeiniad wedi colli pob diddordeb mewn ceisio dal eu gafael ar eu trefedigaeth.
Roedd Macsen yn arweinydd mawr ei barch ac yn boblogaidd ymysg ei ddynion. Roedd wedi cipio Gâl ac Iberia, a chafodd ei enwi'n Ymerawdwr y Gorllewin. Yn Gristion o ddyddiau cynnar y ffydd, cafodd ei gymeradwyo gan yr eglwys, a throsodd Elen i Gristnogaeth hefyd. Er iddi esgor ar nifer o blant, roedd Elen yn hynod brysur ym mywyd deallusol y llys, a daeth yn Gristion pybyr.
Pan benderfynodd ei gŵr groesi'r Alpau yn 387OC, daeth yn fygythiad gwirioneddol i'r Ymerawdwr Theodosius, a bu brwydro ffyrnig rhyngddynt i geisio cipio tiroedd. Ar faes y gad cludai Macsen faner o ddraig goch ar gefndir porffor, o bosib tarddiad baner genedlaethol Cymru. Cafodd ei fradychu, ei ddal a'i ddienyddio yng Ngâl yn 388OC, a dychwelodd Elen i Brydain. Parhaodd â'i gwaith dros yr eglwys a thros Brydain, gan sefydlu eglwysi ac adeiladu ffyrdd. Ymgymerwyd â’r gweithfeydd hyn gan weddillion lluoedd ei diweddar ŵr oedd wedi aros yn ffyddlon iddi. Cafodd y ffyrdd hyn yn aml eu galw'n Sarn Elen neu Sarn Helen, ac mae un llwybr troed hyd heddiw, sy'n arwain o Gaerhun yng Ngwynedd i Gaerfyrddin, sy’n cael ei adnabod o dan yr enw yma.
Aeth nifer o'i phlant ymlaen i gyflawni llawer. Bu tri o'i meibion yn benaethiaid ar amrywiol lwythi yng Nghymru; bu un arall yn teyrnasu dros Ynys Manaw, a phriododd ei merch efo Gwrtheyrn, Uchel Frenin Prydain, a'r dyn a fradychodd y Celtiaid i'r Sacsoniaid.
Nest o Ddyfed
Roedd Nest yn ferch arall hynod o brydferth oedd yn gallu troi dynion o amgylch ei bys bach:
‘Roedd dynion yn lladd er ei mwyn, yn rhyfela er ei mwyn, ac yn cael eu hesgymuno am ei deisyfu.’
Croniclau Cymreig o'r 12fed Ganrif
Roedd yn ferch i Frenin Dyfed, a fu farw yn brwydro yn erbyn y Normaniaid ym 1090. Roedd ei brawd Gruffydd ap Rhys wedi ei gymryd i Iwerddon er ei ddiogelwch ei hun, ond anfonwyd Nest yn wystl at Harri I (mab Gwilym Goncwerwr), yr oedd wedi bod mewn perthynas ag o. Ar ôl esgor ar fab iddo, Henry FitzHenry, dychwelodd Nest i Ddyfed a chanfod bod y Normaniaid wedi trechu ei gwlad a'i dofi.
Er mwyn gofalu am ei hun a'i heiddo, priododd efo Gerallt o Windsor. Roedd yn un o'r Normaniaid, oedd yn rheoli Castell Penfro ar ran Harri, a ganwyd pump o blant iddynt. Un noson cafodd Nest ei threisio a'i herwgipio gan ei chefnder Owain, oedd wedi syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad efo hi. Roedd wedi dyfeisio cynllun gwallgof a'i gwelodd yn anrheithio'r castell ac yn dianc efo Nest a thri o'i phlant i'w gartref ym Mhowys.
Llwyddodd Cadwgan, tad Owain, i dawelu'r dyfroedd a dychwelyd y gwystlon i Gerallt. Bu'n rhaid iddo addo anfon ei fab i Iwerddon, byth i ddychwelyd i Gymru. Ond ymhen hir a hwyr mi ddychwelodd Owain, a bu'n brwydro efo'r Cymry yn erbyn y Normaniaid.
Pan fu farw Gerallt, priododd Nest â Stephen, cwnstabl Castell Aberteifi, gan esgor ar fab arall eto fyth. Drwy ei chryfder, ei chyfrwystra, a'i ffrwythlondeb, bu Nest yn fam i dri theulu Prydeinig a Gwyddelig Geltaidd pwysig; teuluoedd FitzHenry, FitzGerald a FitzStephen.
Llyfr Un
Hiraeth
a mark - marc
Llyfr Dau
Hiraeth
a burden - baich
Llyfr Tri
Hiraeth
a loss - colled