Y Celtiaid
Hanes
Pobl
Y Merched
Mytholeg
Hanes
Y Testunau
Testunau Cymreig
Testunau Gwyddelig
Yn ei lyfr rhagorol, ‘Blood of the Isles’, mae Bryan Sykes yn ymchwilio i wreiddiau genynnol hanes Celtaidd Prydain ac Iwerddon - drwy brofion DNA ar waed. Mae’n ddarllen cyfareddol ond, i dorri stori hir yn fyr, mae cyfran anferthol ohonon ni wedi cadw ein llinach Geltaidd drwy enynnau ein mamau. Maen nhw wedi dal eu gafael yn bengaled ar eu Celtigrwydd er gwaethaf sawl mewnlifiad gwrywaidd o bob cwr o Ewrop. Mae’r gwir plaen bod ein hanes wedi ei drochi yn ein genynnau yn syniad meddwol, a dyna arweiniodd at f’obsesiwn efo’r Celtiaid, ac yn y pen draw at Hiraeth.
Mae’r cymeriadau a’r ddrama yn Hiraeth yn perthyn i Gymru ac Iwerddon, ac er bod hanes y cenhedloedd Celtaidd wedi eu plethu’n un, nid ydw i wedi adrodd straeon Cernyw, Yr Alban, Llydaw nac Ynys Manaw yma.