Celtiaid Cyfandirol
A siarad yn fras, daeth y bobloedd oedd yn byw ar dir mawr Ewrop i gael eu hadnabod fel Celtiaid Cyfandirol. Roeddynt wedi sefydlu pentrefi wedi eu hamddiffyn, wedi meistroli mwyngloddio a chelfyddyd gwaith metel a chrefft rhyfela, ac wedi dechrau masnachu efo’r byd clasurol. Datblygodd diwylliannau nodedig iawn o amgylch perfeddwlad masnachu afonydd mawrion Ewrop. Gan ddechrau efo ‘Hallstatt’ ac yn ddiweddarach ‘La Tène’, gadawyd gwaddol anferthol o grochenwaith, gwaith metel, defodau angladdol ac amrywiol fathau o anheddau gan y ddau ddiwylliant arbennig iawn yma. Drwy etifeddiaeth y bobl hyn yn arbennig y daethon i ddysgu am rôl y Celtiaid yn y byd hynafol. Mae’n amlwg eu bod yn ‘deulu o gymdeithasau’ hynod alluog a medrus, a chwaraeodd ran flaenllaw yn ffurfiant Ewrop.
Y Celtiaid Cyfandirol oedd y bobl y cyfeiria’r Groegiaid atynt fel 'Keltoi’ neu’r ’Galatae’, a’r Rhufeiniaid fel y Celtae neu’r Galli.
Celtiaid Ynysol
Mae Hiraeth yn trafod y Celtiaid Ynysol - y rhai fu ym Mhrydain neu Iwerddon ers cyn yr Oes Haearn, neu a fudodd yma o Ewrop. Mae’n lled debyg eu bod yn gymysgedd o’r ddau, er nad oedd yr ysgrifenwyr clasurol yn eu hystyried yn Geltiaid - roeddynt yn eu galw’n Frythoniaid.
Nid tan y Dadeni, pan aeth y Clasuron o dan y chwyddwydr o ddifrif, fu unrhyw fath o astudiaethau i wreiddiau ethnig y tiroedd oedd wedi eu meddiannu.
Yn ddiweddarach, arweiniodd ymchwil gan y Cymro, Edward Lluyd (1660-1709) a’r Albanwr, George Buchanan (1506-1582) at sylweddoliad bod iaith y Galiaid a siaradwyd yn Ffrainc ganrifoedd ynghynt, ac a gyfeiriwyd ati gan Iŵl Cesar, yn perthyn i ieithoedd byw fel y Gymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg, Llydaweg, Manaweg a Chernyweg.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, daeth y syniad o ddosbarthu ieithyddol i fri, a dechreuwyd defnyddio’r label ‘Celt’. Roedd i’w weld yn cynnwys yr holl bobl ym Mhrydain ac Iwerddon a siaradodd iaith Geltaidd erioed. Mae’n hynod annhebygol i’r carfannau hyn erioed deimlo eu bod yn perthyn fel cyd-Geltiaid, yn enwedig gan eu bod byth beunydd yn ymladd â’i gilydd. Serch hynny, profodd yr enw’n boblogaidd a llewyrchodd, gan gael ei ramanteiddio i’r entrychion. Mae’r diffyg tystiolaeth ysgrifenedig o du’r Celtiaid eu hunain yn golygu ein bod yn dibynnu ar dystiolaeth pobl eraill. Wedi dweud hynny, mae’n werth cofio nad ydy rhywbeth o angenrheidrwydd yn wir oherwydd iddo gael ei gofnodi ar ddu a gwyn.
Tranc y Celtiaid Ynysol
Pan ddechreuodd Iŵl Cesar ei ymgyrch filwrol yn 54-55OC, Celtiaid oedd y cyfan o boblogaeth Prydain ac Iwerddon. Bu’r llwythi hyn yn rhyfela a masnachu efo’i gilydd dros y canrifoedd, ond wedi eu clymu at ei gilydd gan ddiwylliant, iaith ac angen.
Yn sgil goresgyn Lloegr yn 43OC, sgubodd y Rhufeiniaid drwy’r wlad er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn o du’r Celtiaid ar y dechrau. Ond cafwyd amser llawer mwy caled yn y gorllewin, a Chymru’n benodol, er i’r Rhufeiniaid lwyddo i drechu a dinistrio cadarnle’r derwyddon ym Mona, neu Ynys Môn.
Bu hi’n frwydr barhaol i’r Rhufeiniaid i gadw rheolaeth dros eu ffiniau yn y gogledd a’r gorllewin, ond erbyn iddynt adael yr ynysoedd hyn yn y bumed ganrif, roedd iseldiroedd ffrwythlon Lloegr wedi cael eu Rhufeinio’n llwyr. I’r gwagle di-drefn hwn, heb neb mewn grym, y camodd y Sacsoniaid, y Jiwtiaid a’r Angliaid, gan lusgo diwylliant ac iaith Almaenaidd i’r tiroedd hynny o Dorset i’r canolbarth. Erbyn 600OC roedd y Sacsoniaid wedi cyrraedd Northumbria, ac yn raddol, drwy gyfuniad o briodi, uno a choncwest, cafodd teyrnasoedd bychain eu llyncu gan rai mwy, gan greu brenhiniaeth Sacsonaidd.
Y Llychlynwyr a’r Daniaid oedd y rhai nesaf i gyrraedd yr ynysoedd hyn, o thua 790 ymlaen, a dros y ganrif ddilynol bu’r grymoedd Llychlynnaidd ac Almaenaidd yn brwydo am oruchafiaeth, efo’r brodorion fu unwaith yn Geltiaid yn mabwysiadu mwyfwy ddiwylliant ac iaith gogledd Ewropeaidd.
Erbyn i’r Normaniaid gyrraedd ym 1066, roedd yr hyn oedd yn weddill o’r Celtiaid wedi eu gyrru’n llwyr i’r cyrion gogleddol a gorllewinol. Serch hynny, drwy’r Oesoedd Canol parhânt i siarad eu hieithoedd eu hunain a byw oddi fewn i’w diwylliannau brodorol. Yn aml gwrthryfelant yn erbyn pwy bynnag oedd mewn grym ar y pryd, hyd nes i Iorwerth I gymryd ei le ar orsedd Lloegr. Cafodd enw am orthrymu’r Albanwyr, ond mewn gwirionedd gorthrymodd y Celtiaid i gyd.
Deallodd Iorwerth mai sail cenedligrwydd y Cymry oedd eu hiaith, ac aeth ati’n benderfynol i drefnu ymgyrch i waredu’r wlad o’i ‘lingua Wallensica’. Yn y gobaith o drechu eu gwrthryfel unwaith ac am byth, cododd Iorwerth gadwyn o gestyll er mwyn goresgyn Cymru’n llwyr, cyn troi ei olygon at Yr Alban. Ond ni lwyddodd i ddifa’r iaith Gymraeg.
Teyrnasoedd y Môr
Prydain Celtaidd ac Iwerddon
Pobl
Ni ysgrifennodd yr un Celt o’r gorffennol pell restr o’i nodweddion cyffredinol, ond roedd sawl cenedl arall yn hynod barod i wneud, ac roedd yna gytundeb cyffredinol:
Natur danllyd, efo’r gallu i fod yn eithriadol o ddewr, a hoffter o’r ddiod feddwol.
Dawn at siarad cyhoeddus gwefreiddiol ynghyd â chof rhyfeddol am achyddiaeth a hanes llafar.
Yn tueddu at falchder gormodol a gor-frolio.
Marchogion, cerbydwyr a morwyr penigamp.
Fel petai i gadarnhau barn eraill o’u cymeriad, mae’n ymddangos bod y Celtiaid yn hoff iawn o addurno corfforol; roedd colur a gemwaith yn boblogaidd ymysg dynion a merched fel ei gilydd. Canfuwyd breichledau, modrwyon, tlysau, clustdlysau a thlysau’r ffêr ym meddau’r ddau ryw. Nid dynion yn unig a wisgai’r dorch aur; roedd Buddug a Medb ill dwy yn enwog am wisgo eu rhai nhw.
Disgrifiodd Diodorus Siculus y Celtiaid fel;
‘Tal eu cyrff gyda chyhyrau crychiog a chroen gwyn. Mae eu gwallt yn olau ond nid wastad yn naturiol, gan eu bod yn ei liwio drwy ddulliau ffug i gryfhau’r lliw trawiadol y mae natur wedi ei roi iddo.’
Dywedodd hefyd bod nifer o Geltiaid yn addurno eu cyrff efo paent a thrwy datŵio, gan beintio eu hamrannau a’u gwefusau.
Ymladdwyr
Mae llawer iawn wedi ei ysgrifennu am y Celtiaid sy’n eu disgrifio fel pobl ryfelgar, enwog o ddewr mewn brwydr, ffyrnig ac anwar. Roedd cred y Celtiaid mewn bywyd tu hwnt i’r bedd yn golygu nad oedd ofn marwolaeth arnynt, oedd yn eu gwneud yn elynion arswydus.
Ymysg eu llwyddiannau mwyaf nodedig, trechodd y Celtiaid Cyfandirol yr ymerodraeth Etrwsgaidd, gorchfygwyd Rhufain a’r penrhyn Groegaidd, ffurfiwyd byddin bersonol i Cleopatra o’u plith, buont yn asgwrn cefn yn lluoedd Hannibal, ac yn y diwedd buon nhw’n ymladdwyr ffyrnig a milain ym myddin Rhufain. Roedd eu harbenigedd efo arfau, ceffylau a cherbydau yn eu gwneud yn filwyr heb eu hail ar faes y gad, a thros amser datblygodd grŵp o hurfilwyr Celtaidd, y Gaesatae. Roedd y Gaesatae yn bodoli oddi allan i’r trefniant llwythol arferol, a daethon yn adnabyddus ledled Ewrop am eu galluoedd rhyfelgar rhyfeddol a’u teyrngarwch i’w gilydd. Daethant yn enwog am fynd i faes y gad yn noeth lymun, ac am eu gwrywgydiaeth agored.
Roedd doniau rhyfela hefyd yn uchel eu parch ymhlith y Celtiaid Ynysol, a oedd byth beunydd yn ymladd ymysg ei gilydd.
Yn anffodus, nid oedd eu galluoedd milwrol digamsyniol yn ei gwneud yn ornest gyfartal yn erbyn disgyblaeth a niferoedd byddin Rhufain, a sgubodd ymlaen i Brydain ar ôl gorchfygu Celtiaid Ewrop - er na chyrhaeddon nhw erioed Iwerddon.
Ieithoedd Celtaidd
Iaith, nid hil, oedd wastad yn uno’r Celtiaid, a bellach pump yn unig o’r ieithoedd Celtaidd y gellir eu hystyried i fod yn ‘fyw’; Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg, Llydaweg a Chernyweg.
Yn y ddeunawfed ganrif canfu Edward Lhuyd bod yr ieithoedd byw yma yng ngorllewin yr ynysoedd hyn â thebygolrwydd rhyngddynt ag iaith hynafol y Galiaid. Drwy eu galw’n Geltaidd, llwyddodd i greu dolen rhyngddynt - a chreu brand ar eu cyfer. Yn ddiweddarach dangosodd astudiaethau bod dwy ffurf wedi eu hesgor o un iaith ‘Geltaidd’ wreiddiol. Yn ‘Hiraeth’, yr iaith hynafol, wreiddiol hon oedd yr ‘Hen Gymraeg’, er y bysa nifer yn honni mai ffurf hynafol o’r Wyddeleg y dylai fod. Un ffordd neu’r llall, erbyn 400CC roeddynt wedi gwahanu ar eu llwybrau unigol eu hunain.
Gaeleg neu Celteg-Q, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg. Mac yn gyfystyr â mab.
Brythoneg neu Gelteg-P, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg. Ffurfiau o Map am epil gwrywaidd.
Cymraeg a Gwyddeleg sydd fwyaf hyfyw o blith yr ieithoedd Celtaidd cyfoes, er mai ugain y cant o’r Cymry sy’n siarad yr iaith, a rhyw ddeg y cant o’r Gwyddelod all siarad eu hiaith nhw. Ystyrir y Llydaweg i fod ‘o dan fygythiad difrifol’, efo’r nifer o siaradwyr wedi syrthio o tua miliwn ym 1950 i 200,000 yn y flwyddyn 2000. Yn Yr Alban bu’r boblogaeth o dan ormes creulon a chyfundrefnol yn dilyn Brwydr Culloden. Y dyddiau hyn gellid disgrifio distryw Gaeleg yr Alban a strwythurau llwythol y bobol fel ‘glanhau ethnig’ - er bod nifer o ieithoedd ar wahân i’r Saesneg yn parhau i gael eu siarad yn Yr Alban.
Credir mai’r siaradwr uniaith olaf o’r Gernyweg oedd Dolly Pentreath, fu farw ym 1777, efo nifer yn credu i’r iaith farw efo hi, ond mae cefnogwyr selog y Gernyweg wedi llwyddo i’w hadfer fel iaith academaidd. Yr olaf o siaradwyr brodorol y Fanaweg oedd Ned Maddrell, fu farw ym 1974. Yn ffodus mae sgyrsiau a recordiwyd efo Ned Maddrell ym 1964 wedi sicrhau bod yr iaith ar gof a chadw.
Wedi ei farwolaeth ysgytiwyd y Tynwald, senedd Ynys Manaw, i benodi swyddog efo cyfrifoldeb am y Fanaweg. Ers hynny, mae’r nifer o siaradwyr brodorol wedi cynyddu i fil.
Y Merched
Mytholeg
Hanes
Y Testunau
Testunau Cymreig
Testunau Gwyddelig
Prynu Llyfr
Mae ‘Celtyddiaeth’ yn ddifyrrwch cyfareddol tu hwnt; serch hynny mae hefyd yn llawn gwrthddywediadau. Mae cymaint wedi ei ysgrifennu am y Celtiaid, llawer ohono yn gallu amrywio'n wallgo' o un pegwn i’r llall. Bydd rhai haneswyr yn wfftio eu bodolaeth bron fel mytholeg, ond eraill yn rhoi’r clod iddynt am bopeth ‘wnaeth y Rhufeiniaid i ni erioed.’
Nid oes hyd yn oed gytundeb ar ystyr y gair ‘Celt’. Mae’r cynigion yn hynod amrywiol; o celsus yn Lladin neu cléthe mewn hen Wyddeleg, sy’n golygu ‘wedi ei ddyrchafu’, i hap eiriau eraill o darddiadau gwahanol ond i gyd yn golygu ‘i daro’. Ond mae’n debyg mai’r ffefryn ydy celaf o’r hen Gymraeg neu ei gefnder celim o’r hen Wyddeleg, sef tarddiad y gair Cymraeg cyfoes ‘celu’. Efallai ei fod yn gyfeiriad at waharddiad y derwyddon o’r gair ysgrifenedig, er mwyn ‘celu’ eu gwybodaeth, ac o bosib dyna darddiad y gair ‘kilt’. O ganlyniad, cafwyd peth dewis a dethol o blith amrywiol farnau, testunau ac awduron yn y nodiadau hyn, a thrwy stori Hiraeth i gyd.
Hanes
Rhywbryd o gwmpas y ganrif gyntaf Cyn Crist, dechreuodd gwareiddiad oedd ar y cyfan o dras Indo-Ewropeaidd ymledu i weddill Ewrop o’r cymoedd wrth lannau’r Ddonau, y Rhein a’r Rhôn. Bu’r ymledu yn ddirybudd a threisgar, ac yn ei anterth, rhwng 600 a 300CC, roedd wedi cyrraedd cyn belled ag Iwerddon yn y gorllewin a Wcráin yn y dwyrain; mor ogleddol â’r Almaen ac mor ddeheuol â Sbaen.
Nid un genedl oedd y bobol hyn, ond carfannau fu’n cyd-fasnachu a rhyfela fel ei gilydd. Yn eu clymu at ei gilydd oedd eu hiaith, arferion, celfyddyd, diwylliant a’u rhyfelgarwch. Dros y canrifoedd a ddilynodd, cafodd hanner gwirioneddau a dyfaliadau eu gwau yn ffantasi llwyr oedd yn aml yn cael ei bortreadu fel y gwir. Ond bellach, mae astudiaethau gwyddonol ysgolheigaidd go iawn - megis archeoleg, ieithyddiaeth a phrofion DNA - wedi rhoi darlun llawer mwy cywir ar ei gilydd.
Teyrnasoedd y Môr
Bathwyd yr enw Teyrnasoedd y Môr gan Alistair Moffat, awdur a hanesydd Celtaidd o’r Alban, i gyfeirio at diroedd Celtiaid Prydain ac Iwerddon. Mae ei lyfr wedi ei ysgrifennu’n hyfryd ac yn ddarllen rhyfeddol o ddifyr, gan ddadlau mai yn ei hanfod y moroedd, nid y tir, oedd traffyrdd Prydain Geltaidd.
‘Y môr yw’r cyswllt di-dor sy’n clymu’r profiad (Celtaidd) hwn at ei gilydd,’ ysgrifennodd.
Mae’n ymddangos yn syniad synhwyrol ar gyfer casgliad bychan o ynysoedd oedd yn meddu ar arbenigedd morwrol nodedig. Ar amrantiad, daeth ffiniau ar y tir yn llawer llai pwysig. Mae’n llawer haws dod i ddeall y Celtiaid Prydeinig a Gwyddelig o edrych arnynt o’r môr, yn hytrach na’r tir. Roedd cefnffyrdd gwlybion y gorllewin yn llawer cynt a haws na thir sych - cyn hired â’ch bod yn gwybod beth oeddech yn ei wneud.
Enwau Celtaidd Teyrnasoedd y Moroedd
Alba – Yr Alban
Cymru – Cymru
Ellan Vanin – Ynys Manaw
Erinn – Iwerddon
Kernow – Cernyw
Breizh – Llydaw
Nodweddion y Cymeriad Celtaidd
Strwythur Cymdeithasol
Sefydlwyd y gymdeithas Geltaidd yn y bôn mewn cymunedau amaethyddol, yn seiliedig ar gyfundrefn gast o haenau cymdeithasol. Serch hynny, roedd iddo gyfundrefnau cyfreithiol oedd wedi eu hen ymsefydlu - megis Cyfraith Hywel Dda yng Nghymru a Chyfraith Brehon yn Iwerddon.
Mae peth tystiolaeth bod y Celtiaid yn ymarfer caethwasiaeth, ond mae’n debyg bod hyn yn digwydd fel cosb yn unig neu oherwydd caledi eithafol. Nid ydy’n ymddangos bod hyn yn arfer cyffredin i’r Celtiaid - yn wahanol iawn i’w cyfoeswyr yn y byd ‘Clasurol’. Y caethweision hyn fysa ar reng isaf cymdeithas, efo’r amaethwyr a’r llafurwyr uwch eu pennau. Roedd hefyd bendefigaeth o ymladdwyr, o le'r cai'r frenhiniaeth ei magu, a dosbarth ysgolheigaidd elitaidd.
Oddi fewn i’r garfan hon o bobl roedd y barnwr, y meddygon a’r derwyddon. Gellid wedyn rannu’r derwyddon yn ofyddion, beirdd a derwyddon. Rhyngddynt, y deallusion yma oedd yn gyfrifol am les ysbrydol eu cymunedau. Y beirdd oedd ceidwaid byw hanes ac achau eu pobl, yn ogystal â’u diddanwyr. Ystyriwyd yr ofyddion yn athronwyr naturiol, ac yn ddewiniaid oedd yn gallu gweld i’r dyfodol. Ond roedd y grym go iawn yn nwylo’r derwyddon, oedd yn penderfynu ar faterion cyfreithiol difrifol, ac oedd efo’r gallu i ddiarddel unigolyn o’i gymuned.
Er i’r gymdeithas Geltaidd gael ei rheoli gan ddynion, roedd gan y merched rôl llawer mwy cyfartal na’r hyn o eiddo merched Groeg a Rhufain. Roedd ymladdwragedd fel Buddug, Cartimandua, Scáthach, a Gwenllïan yn eithriadol brin, os rhyfeddol, ond roedd gan ferched yr hawl i wleidydda, llywodraethu, neu ymgymryd â’r gyfraith, y celfyddydau a bywyd crefyddol. O dan y cyfreithiau Celtaidd roedd ganddynt yr hawl i fod yn berchen ar eiddo, i ddewis gŵr a phenderfynu ysgaru.
Cai bechgyn a genethod eu hanfon o’u cartref am gyfnod, i gael eu haddysg mewn rhyw fath o gynllun prentisiaeth. Roedd y gof yn ennyn parch eithriadol a chai ei ystyried nid yn llafurwr, ond i fod yn yr un dosbarth â’r deallusion, a chredwyd iddo rannu gallu’r dewin llawn cymaint â’r derwyddon.
Erydwyd y cytgord naturiol hwn rhwng y merched a’r dynion wrth i ddylanwad moesol y ferch Geltaidd gref gael ei wanhau gan y mewnlifiad. Yn gyntaf daeth y Rhufeiniaid, oedd ag agwedd farbaraidd at ferched. Dilynwyd nhw gan y cenhedloedd Almaenig, oedd yn gosod merched mewn statws isel iawn o fewn y gymdeithas. Yn olaf, wrth gwrs, daeth Cristnogaeth.
Cyfundrefnau cyfreithiol Celtaidd
Cyfreithiau Hywel Dda a Brehon.
Enwyd Cyfraith Hywel dda ar ôl y Tywysog Hywel ap Cadell, oedd yn teyrnasu dros lawer iawn o’r hyn a adnabyddwn heddiw fel Cymru yn y cyfnod 910-950OC. Aeth Hywel ati i adolygu’r cyfreithiau oedd yn bodoli eisoes - oedd cynt wedi cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth gan feirdd a chyfreithwyr - a’u cofnodi ar ddu a gwyn. Mae oddeutu saith deg o'r dogfennau hyn mewn bodolaeth, wedi eu hysgrifennu â llaw mewn Lladin, ond eu hanner yn unig sy’n dyddio cyn y ganrif gyntaf ar bymtheg.
Cyfraith Brehon ydy’r fersiwn Gwyddelig o’r cyfreithiau Celtaidd, ac roedd llawer yn debyg rhyngddynt â Chyfraith Hywel. Roedd y ddau fel ei gilydd yn dangos, er gwaethaf goruchafiaeth dynion mewn cymdeithas Gymreig a Gwyddelig, bod merched yn mwynhau mwy o ryddid, yr hawl i fod yn berchen ar eiddo, a’r gallu i fynnu cyfiawnder, na merched y Saeson {yn Sacsoniaid, Daniaid a Normaniaid}.
Crefydd
Cofnodwyd gwreiddiau chwedlonol y Celtiaid gan fynachod Cristnogol cynnar, felly mae llawer o amwysedd yn eu gweithiau. Serch hynny, wrth eu cyfuno efo tystiolaeth archeolegol a’r testunau Clasurol, cawn fytholeg ynglŷn â’u creadigaeth sy’n debyg iawn i un o’r India sy’n trafod y dduwies Vedas:
Ffrydiodd y Fam Dduwies, Danu (Gwyddelig) neu Dôn (Cymreig), enw sy’n tarddu o Ddyfroedd Sanctaidd Danuvius, neu’r Donau, i’r anhrefn ar y Ddaear ac esgor ar Bile (Gwyddeleg), neu Beli (Cymraeg), y derw sanctaidd a roddodd enedigaeth i’r duwiau a’r duwiesau eraill i gyd. Gelwir y rhain yn Blant Dôn, Tuatha de Dannan yn y Wyddeleg.
Roedd y Celtiaid yn amlwg yn gymdeithas aml-dduw, efo mwy na phedwar cant i ddewis ohonynt. Roedd nifer yn gysylltiedig yn benodol â llwyth neu le arbennig ac, er yn amlwg bod rhai ffefrynnau, mae’n anodd gwahaniaethu rhwng duwiau a meidrolion grymus. Roedd nifer o’r prif dduwiau Celtaidd yn driphlyg, efo tair wynebwedd ac yn aml thri enw gwahanol. Addolwyd nifer ddryslyd o dduwiau gan y Celtiaid, gan efallai egluro pam na ddatblygodd yr un hierarchaeth amlwg.
Amaethon - Duw amaeth Cymreig, mab Beli a Dôn.
Agroná - Duwies brwydro a chyflafan y Celtiaid.
Arianrhod - Gwyryf dduwies y ffurfafen a ffrwythlondeb. Merch Beli a Dôn. Mam Dylan a Lleu.
Andrasta - Duwies ryfel Rufeinig Geltaidd oedd o ddiddordeb arbennig i lwyth yr Iceni.
Arawn - Duw Annwfn, yr arallfyd.
Beli - Duw marwolaeth, a gŵr Dôn.
Bran - Brenin Ynys y Cedyrn (Prydain Fawr), mwy o dduw nac o ddyn.
Brigantia - Duwies rhyfela, iachâd, dŵr, ffrwythlondeb a chyfoeth. Enwyd llwyth y Brigantiaid o ogledd Lloegr ar ei hol. Brigindo, Brigit.
Camulos - Duw rhyfel.
Cernunnos - Duw corniog ffrwythlondeb a grym. Cysylltir yn aml efo symbolaeth a delweddaeth y ‘Dyn Gwyrdd’.
Y Dagda - Duw a ffigwr tadol driphlyg y Gwyddelod, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Eochaid ac Ollathair.
Dôn - Duwies bywyd. Roedd ei phlant efo Beli; Amaethon, Arianrhod, Gilfaethwy, Gofannon, Gwydion, a Nudd, yn cael eu hadnabod fel Plant y Goleuni.
Dylan - Duw’r môr. Mab Arianrhod.
Gofannon - Duw’r gofaint a meistr y doniau.
Gwydion - Duw hud, barddoniaeth a cherddoriaeth.
Lleu, Lugh - Duw ymladdgar y goleuni llachar.
Llŷr - Duw’r môr, cerddoriaeth a hud. Tad Bran, Manawydan, a Branwen, a adnabyddir fel Plant y Tywyllwch.
Mabon, Maponus - Duw Celtaidd cerddoriaeth a barddoniaeth, cariad ac ieuenctid.
Y Mórrígan, Mórrigú - Duwies driphlyg marwolaeth, a ymddangosai fel Macha, Badb, a Nemain. Teyrnasai dros fywyd, marwolaeth a rhywioldeb. Y forwyn, y fam, y wrach.
Rhiannon, Epona, Macha - Duwies o geffyl.
Credoau
Creda’r Celtiaid bod yr enaid yn bodoli yn y pen, ac nad oedd modd ei ddistrywio. Oherwydd hyn, yn aml byddai ymladdwyr yn torri i ffwrdd a chadw pennau cyfeillion a gelynion fel ei gilydd. Mae pennau sy’n gallu cynnal sgyrsiau, er iddynt fod wedi eu gwahanu o’u cyrff, yn gyffredin iawn mewn mytholeg Gymreig a Gwyddelig.
Mae syniadaeth Geltaidd am fywyd tu hwnt i’r bedd yn ymddangosiadol yn canolbwyntio ar Annwn, yr arallfyd. Y gred oedd pan oedd unigolyn yn marw yn y byd hwn, roedd yr un pryd yn cael ei eni o’r newydd yn yr arallfyd, a phan fyddai farw yno, byddai ei enaid yn cael ei eni eto mewn corff yn y bywyd hwn.
Ceir tystiolaeth am y gred hon yn y trysorau afradlon o eiddo bydol sydd wedi eu canfod yng nghladdfeydd Celtiaid o bwys. Roedd modd i feidrolion syml gael mynediad i ‘Annwn’, ond dim ond y gorau a’r dewraf sy’n llwyddo mewn mytholeg Gymraeg a Gwyddeleg. Ond unwaith y flwyddyn, ar ŵyl Alban Arthan neu Galan Gaeaf, credid bod y muriau tila rhwng y ddau fyd yn ddigon brau i basio drwyddynt.
Yn aml, cysylltir defodau’r ‘Dyn Gwiail’ o aberth dynol efo’r Celtiaid. Byddai dynion, merched, plant ac anifeiliaid yn cael eu llosgi i farwolaeth mewn strwythurau anferthol wedi eu creu ar ffurf dynol. Wedi dweud hynny, ni ymddengys bod unrhyw dystiolaeth archeolegol o laddfeydd fel hyn ar unrhyw raddfa sylweddol. O groniclau’r Rhufeiniaid y daw’r honiadau, criw nad oedd yn swil o dywallt gwaed eu hunain. Serch hynny, mae astudiaethau archeolegol wedi dod i’r casgliad mai aberth oedd yr unig reswm dros farwolaeth mewn ambell achos. Mae pob diwylliant, ryw bryd neu’i gilydd, wedi ceisio bodloni’r duwiau drwy aberth ddynol, ac yn sicr roedd y Celtiaid yn arddel yr arferiad - ond ni wyddom pam na pha mor aml oedd hyn yn digwydd. Gwyddom fod teirw yn ennill parch uchel am eu hegni, cryfder a ffrwythlondeb. Yn aml caent eu lladd fel rhan o ddefodau, ac mae nifer fawr o chwedlau wedi eu seilio ar hyn.
Roedd pob man dyfrllyd, ac nid yn unig y môr, yn cael ei ystyried yn llwybr i’r ‘arallfyd’; mannau peryglus lle'r oedd duwiau a meidrolion yn dod wyneb yn wyneb. Daeth llynnoedd a nentydd, a hyd yn oed corsydd, yn fannau sanctaidd ledled Prydain ac Iwerddon. Mae gwrthrychau metel hardd fel cleddyfau, gwaywffyn, tariannau a gemwaith wedi eu canfod ynddynt, ac mae’n debyg mai offrymau i’r duwiau oedd y rhain.
Nid oes fawr o dystiolaeth o urdd grefyddol oedd yn defnyddio cosb er mwyn cadw trefn; cadwyd ffrwyn ar gymdeithas yn fwy drwy strwythur moesol a gair y gyfraith. Ond roedd seremonïau a defodau yn bodoli a lywyddwyd gan y derwyddon a’r ofyddion; Alban Arthan, Calan Gaeaf, Calan Haf, Gŵyl Fair y Canhwyllau, Alban Hefin a Gŵyl Awst. Roedd y gwyliau hyn yn dathlu cylch natur, a’r planedau a’r sêr, a chyrff seryddol eraill yn y wybren.
Llyfr Un
Hiraeth
a mark - marc
Llyfr Dau
Hiraeth
a burden - baich
Llyfr Tri
Hiraeth
a loss - colled