Hiraeth a mark - marc
Delwedd o'r clawr blaen
Hiraeth a mark - marc
Delwedd o'r clawr
Sam Holland - Dic Evans 2005
Sam Holland - Bishop John Whitgift 2012
Ar gyfer pob cais arall gan y cyfryngau, cysylltwch â Liz Riley Jones
Y llyfr cyntaf y o'r drioleg Hiraeth:
Hiraeth a mark - marc
Clawr papur: 408 tudalen
Cyhoeddwyr: Matador
Iaith: Saesneg
ISBN-10: 1784621315
ISBN-13: 978-1784621315
Ar gael o bob siop lyfrau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys
Waterstones, WH Smith and Amazon
Mae'r elyfr ar gael rwan, a bydd y llyfr sain ar gael yn fuan.
Yr wythnos hon gwelir 'Hiraeth a mark - marc' gan Liz Riley Jones yn cael ei gyhoeddi. Dyma lyfr cyntaf o drioleg Hiraeth, sy'n stori llawn antur a chyffro am gariad, hud ac ymdrech i oroesi.
Crynodeb o glawr y llyfr
Bu Mona Jones ar ffo ar hyd ei hoes heb wybod yn iawn pam. Cafodd ei rheini eu llofruddio pan oedd yn ei harddegau, a rwan, a hithau'n un ar hugain, mae ei hewythr a'i gwarchodwr yn gelain hefyd. Mae'r tro erchyll hwn yn ei bywyd yn ei gorfodi i droi'n ôl at ei gwreiddiau ac i dreulio amser yn y gymuned Gymraeg ym Moelfre ar Ynys Môn. Yma mae ei llinach dderwyddaidd yn dechrau amlygu ei hun, er iddo gael ei adnabod yn syth gan y rheini sydd o'i hamgylch. Pan mae derwydd gelyniaethus yn ei nodi efo'r 'Marc', mae Mona'n canfod ei hun yng nghanol rhyfel cartref rhwng y derwyddon.
Wedi ei nodi efo'r 'Marc', daeth hi'n bryd iddi ddefnyddio ei grymoedd goruwchnaturiol, dim ond i ganfod fod ganddi un gwendid trychinebus. Caiff ei swyno gan y rhyfelwr Cai, ond cânt eu gwahanu pan gaiff fflyd y gymuned eu hudo allan i'r môr gan gredu bod y Gwyddelod ar fin ymosod. Daw'r derwyddon Cymreig i gredu bod ysbïwr yn eu plith, a daw Cai a Mona o dan amheuaeth. Wrth i rywun ymosod arni eto, mae grymoedd di-reolaeth Mona yn ffrwydro am yr eildro. Mae'n rhaid i'r derwyddon benderfynu os mai eu hachubwr ynteu eu dinistriwr ydy hi.
Mae hiraeth yn air sy’n anodd iawn i’w gyfieithu’n foddhaol i Saesneg, ond sy’n gyffredin yn yr ieithoedd Celtaidd, megis hiraezh yn Llydaweg, hireth yn Gernyweg, a sirecht yn yr hen Wyddeleg.
Wedi ei gosod yn y Brydain gyfoes, mae Hiraeth yn croniclo anturiaethau Mona Jones o'i chartref yng Nghaint i fyd cudd y Derwyddon yn y Gwledydd Celtaidd: Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw, Ynysoedd Heledd yn Yr Alban, a Chernyw. Yma ceir rhai o'r tirweddau prydferthaf ond garwaf yn yr ynysoedd hyn, lleoedd pellennig sy'n byw rhywle rhwng y byd cyfoes a chanol yr ugeinfed ganrif.
Mae Ynys Môn â rôl ganolog yn y llyfr. Wedi ei thrwytho mewn traddodiad a hud Celtaidd hynafol, dyma le mae Mona yn cyfarfod â'r derwyddon Cymraeg fydd yn newid cwrs ei bywyd am byth.
Mae'r stori hefyd yn tyrchu i berfedd materion yn ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol ac achau. Caiff Mona ei hanfon i Gymru i chwilio am gysylltiadau teuluol, ond mae'n parhau ar y tu allan - merch o Gaint yn ceisio dod i ddeall yr hyn ydy realaeth ei bywyd newydd mewn gwlad estron.
“Mae golwg gyfoes Mona ar fywyd yn gwrthgyferbynnu’n arw efo'r gymuned Dderwyddol geidwadol," eglura Liz. "Mae Mona yn gymeriad egnïol ac annibynnol sy'n dod â synnwyr cryf i'r gyfres o ferched yn mynnu grym."
Wedi ei chyfareddu gan ei gwreiddiau Cymreig ei hun, tynnodd Liz ar ei chysylltiadau teuluol ar Fôn a'u gwau o amgylch themâu Celtaidd: y Mabinogi, cerddoriaeth, chwedloniaeth Geltaidd, hanes a thestunau.
Mae brwydr yr iaith Gymraeg am ei heinioes yn destun cyson drwy stori Hiraeth. Wedi ei hysbrydoli gan frwydr yr awdur i ddysgu'r iaith dros ddeng mlynedd, mae wedi troi yn dipyn o wrogaeth i'r Gymraeg.
"Mae dysgu Cymraeg wedi newid y ffordd dwi'n meddwl am iaith," ychwanega Liz. "Pan fo'ch ceg yn gorfod symud mewn ffordd wahanol i ffurfio'r sain gywir, mae'n newid eich ymennydd. Siarad barddoniaeth ydy siarad Cymraeg."
‘Hiraeth a mark - marc’ ydy'r llyfr cyntaf o'r drioleg, a chaiff ei ddilyn y flwyddyn nesaf gan ‘Hiraeth a burden - baich’ ac ‘Hiraeth a loss - colled'.
Liz Riley Jones ydy ffug enw Sam Holland, cerflunydd sy'n byw a gweithio yng Nghaint. Gweithio ar ei cherflun o Dic Evans, arwr y badau achub o Foelfre yn Ynys Môn, ddaeth a hi yn ôl i gysylltiad â'i gwreiddiau teuluol ar yr ynys.
Roedd ei thaid Thomas Idwal Jones yn un o gyfeillion oes Dic Evans, ond galwad ffôn ar hap gan Bartneriaeth Moelfre ddeng mlynedd yn ôl yn ei gwahodd i weithio ar y cerflun a'i hudodd i Fôn a newid ei bywyd.
Wedi ei hysbrydoli gan ei gwreiddiau Celtaidd, dechreuodd Sam ddysgu Cymraeg ac astudio chwedloniaeth, hanes a hunaniaeth y Celtiaid. Daeth y gwaith i benllanw yn stori Hiraeth - cymysgedd o brofiadau personol, lledrith, a gwrogaeth i straeon Celtaidd mawr y Mabinogi a Chylch Ulster y Gwyddelod.